'Trist iawn gweld beth sy'n digwydd' i rygbi Cymru
Mae cyn-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, yn dweud ei bod sefyllfa rygbi yng Nghymru yn "drist", a bod angen i fwrdd y sefydliad "ddangos arweinyddiaeth".
Daw'r sylwadau ar ôl i Gymru gael cweir gan Loegr ddydd Sadwrn - eu 17eg colled yn olynol - a gorffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad.
"Yn amlwg mae problem ar lefel ucha'r gêm, a mae problem trwy'r gêm, fi'n credu," meddai Mr Davies.
"Mae cyfrifoldeb nawr ar y bwrdd i sefyll lan. Mae'n rhaid iddyn nhw nawr wneud beth maen nhw'n meddwl sy'n iawn i'r gêm - dim cadw pawb yn hapus.
"Mae'n rhaid i'r bwrdd ddangos arweinyddiaeth fan hyn."
Mae cyn-brif weithredwr Chwaraeon Cymru, Huw Jones wedi bod yn feirniadol iawn o'r undeb, gan ddweud bod diffyg cyfathrebu yn dilyn ymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad yn "hollol annerbyniol".
Mae'r BBC wedi gwneud cais am gyfweliad gydag Undeb Rygbi Cymru a'r prif weithredwr Abi Tierney.