Tawelwch URC yn 'annerbyniol' wrth i arweinwyr 'guddio'

Abi TierneyFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Abi Tierney ydy prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'r diffyg cyfathrebu gan Undeb Rygbi Cymru yn dilyn ymgyrch siomedig yn y Chwe Gwlad yn "hollol annerbyniol", yn ôl cyn-bennaeth corff chwaraeon.

Yn siarad ar Radio Wales, dywedodd Huw Jones, cyn-brif weithredwr Chwaraeon Cymru, ei fod yn "hollol gandryll" ynghylch y sefyllfa.

Prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru (URC), Abi Tierney, ddylai fod yn siarad ar y radio, meddai Mr Jones, er mwyn "dweud wrth gyhoedd Cymru beth sydd wedi mynd o'i le, a beth maent am ei wneud nesaf".

"Nid cuddio yn nhyrrau URC, mae'n hollol annerbyniol," meddai.

Mae'r BBC wedi gwneud cais am gyfweliad gyda Ms Tierney ac Undeb Rygbi Cymru.

Daw sylwadau Mr Jones ar ôl i Gymru gael cweir gan Loegr ddydd Sadwrn, a derbyn y llwy bren am orffen ar waelod y tabl.

'Cwbl anghrediniol'

Y golled i Loegr oedd yr 17eg colled yn olynol i dîm dynion Cymru, sydd wedi cynnwys ymgyrch gythryblus yn y Chwe Gwlad a welodd Warren Gatland yn gadael swydd y prif hyfforddwr.

Dywedodd Mr Jones nad yw URC yn derbyn cyfrifoldeb am sefyllfa'r gêm yng Nghymru.

"Pan mae pethau'n mynd o'i le, mae prif weithredwyr yn cael eu talu'n dda i ddod ymlaen ac wynebu'r peth. Nid ydyn nhw'n gwneud hyn ar hyn o bryd.

"A phan ydych chi'n gweld yr anrhefn sydd wedi'i achosi dros y misoedd diweddar - cefnogi Gatland ddwywaith, ac yna ei ddiswyddo yng nghanol pencampwriaeth."

Dywedodd bod y sefyllfa'n "gwbl anghrediniol", a bod gan Ms Tierney "lawer i fod yn atebol iddo".

Ychwanegodd bod angen newid "anferth" o fewn y gamp: "Ar hyn o bryd, o'i datganiadau blaenorol, nid yw'n ymddangos ei bod hi'n barod i wneud hynny."

Brynmor Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dydy pobl ddim yn cynnig atebion i'r problemau, meddai Brynmor Williams

Mae'r problemau sy'n wynebu'r undeb yn glir, yn ôl cyn-fewnwr Cymru a'r Llewod, Brynmor Williams, ond does dim atebion yn cael eu cynnig.

"Mae pawb yn dweud bod isie newid pethe, ond dim llawer o bobl yn dweud beth sydd i ddigwydd", meddai ar Dros Frecwast.

Dywedodd bod y problemau'n rhedeg yn ddwfn drwy bob lefel o'r gêm.

"Mae'r rhanbarthau 'di bod yn colli ers 10 mlynedd... y tîm dan-20 - naethon nhw'n dda dydd Gwener ond ddim wedi bod yn llwyddiannus dros y blynydde, mae tîm [hŷn] Cymru ar chwâl, a dwi'n credu bod pethe'n fwy dwfn.

"Pethe fel strwythur i ddatblygu talent, niferoedd y chwaraewyr sy'n dod trwyddo, safon hyfforddiant - does neb yn gofyn am hynny achos dim ond pedwar neu bump hyfforddwr ni 'di datblygu mewn 30 mlynedd. Pam bod gwendid mawr yn yr adran yna o'r gêm?"

'Dim un dyn yn mynd i lwyddo'

Wrth ystyried y diffyg arian, dywedodd bod "lot, lot o broblemau, a mae'n galed i roi bys ar y botwm..."

"Does dim un dyn yn mynd i 'neud pethe'n llwyddiannus, mae lot, lot o waith i'w wneud ac mae'r cyfrifoldeb ar ysgwyddau'r undeb, a falle'r llywodraeth hefyd.

"Mae'n fwy na gêm, mae'n rhan o ddiwylliant Cymru."

Dywedodd y sylwebydd Gareth Rhys Owen bod problemau rygbi Cymru yn amlwg ers tro, ond bod y sefyllfa'n "argyfyngus" bellach oherwydd y perygl o effeithio ar werthiant tocynnau.

Yr arian a ddaw i'r undeb o gynnal gemau rhyngwladol sy'n gyfran fawr o'r cyllid sydd wedyn yn cael ei ddosbarthu drwy'r gamp ar bob lefel.

Byddai methu â gwerthu'r holl docynnau ar gyfer gemau Cymru yn erbyn rhai o dimau llai y byd yn gallu golygu colli cannoedd o filoedd o bunnoedd i'r undeb, meddai.

"Does dim arian da rygbi Cymru ar y funud fel mae hi, ac o'n i'n siarad da rhieni ddoe aeth i'r gêm, dau oedolyn a thri o blant - £400.

"Pwy sy'n mynd i dalu £400 i weld tîm yn cael coten go iawn?"

"Felly ie mae'n rhaid newid pethau ar lefel sylfaenol, ond wedi dweud hynny, yn gyntaf mae'n rhaid cael buddugoliaethau oherwydd os na neith hynny ddigwydd, mae'r gêm yng Nghymru mewn sefyllfa trychinebus o wael."