Chwe Gwlad: Crasfa a llwy bren i Gymru wedi'r gêm yn erbyn Lloegr

Roedd Lloegr yn rheoli'r gêm o'r dechrau
- Cyhoeddwyd
Lloegr oedd gwrthwynebwyr Cymru yng ngêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a'r gobaith oedd y byddai'r cochion wedi efelychu buddugoliaeth y tîm dan-20 nos Wener ond colli fu eu hanes yn Stadiwm Principality o 14 i 68.
Roedd Lloegr ar dân o'r cychwyn cyntaf ac wedi tair munud fe sgoriodd Maro Itoje gais cyntaf y gêm ac wedi i Fin Smith drosi yn llwyddiannus roedd y sgôr yn 0-7.
O fewn munudau roedd 'na obeithion bod Cymru hefyd wedi sgorio ond ni ganiatawyd y cais yn sgil camsefyll gan Tomos Williams ond yna wedi 11 munud ail gais i Loegr wrth i Tim Roebuck dirio ac wedi trosiad llwyddiannus arall roedd y sgôr yn 0-14.
Yn fuan bu bron i Blair Murray sgorio cais arall ond fe'i rhwystrwyd gan dacl ar ei bigyrnau.

Roedd yna obeithion bod Cymru wedi sgorio cais ond wedi camsefyll gan Tomos Williams ni chafodd y cais ei ganiatáu
Dau newid oedd i'r tîm a gollodd yn erbyn Yr Alban wythnos diwethaf - Joe Roberts ar yr asgell yn lle Tom Rogers sydd wedi'i anafu ac Aaron Wainwright yn y rheng ôl yn lle Tommy Reffell.
Fe gafodd y cochion dri cyfle yn gynnar yn ystod yr hanner cyntaf ond ni lwyddwyd i droi y mantais yn bwyntiau ond wedi hanner awr fe ddaeth cais i Gymru wedi i Ben Thomas dirio a Gareth Anscombe drosi.
Ond byr fu'r llawenydd gan i Loegr sgorio cais arall yn fuan - Tommy Freeman y tro hwn ac wedi trosiad llwyddiannus roedd y sgôr yn 7-21.
Cyn hanner amser dau gais arall i'r Saeson - Chandler Cunningham-South yn sicrhau cais pwynt bonws a Will Stuart yn sgorio'r pumed cais.
Y sgôr ar hanner amser oedd 7-33.

Fe sgoriodd Lloegr bump cais yn yr hanner cyntaf
Bu Cymru yn agos at sgorio ddwywaith ar ddechrau'r ail hanner ond aflwyddiannus fu ymdrechion Blair Murray, a Max Llewellyn ac Aaron Wainwright.
Ond wedi 54 munud cais arall i Loegr - y chweched wedi i Alex Mitchell sgorio ac wedi trosiad llwyddiannus arall roedd y sgôr yn 7-40.
Cyn diwedd y gêm pedwar cais arall i'r Saeson ond roedd yna gais cysur i Gymru hefyd - ail gais i Ben Thomas a throsiad llwyddiannus gan Jarrod Evans.
Y sgôr terfynol 14-68.
Cymru felly yn ennill y llwy bren am yr eildro yn olynol ac wedi colli 17 gêm o'r bron.
Fydd Lloegr ddim yn gwybod ai nhw fydd enillwyr y bencampwriaeth tan yn hwyrach nos Sadwrn wedi i Ffrainc chwarae'r Alban ym Mharis.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Chwefror
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd31 Ionawr