Cymru i wynebu 'gêm anodd' yn erbyn Gogledd Macedonia

Gyda Chymru i wynebu Gogledd Macedonia yn Skopje nos Fawrth, mae dau o gyn-chwaraewyr Cymru wedi bod yn pwyso a mesur gobeithion tîm Craig Bellamy cyn y gêm.

Mae Iwan Roberts a Nia Jones wedi bod yn trafod a fydd y rheolwr yn gwneud newidiadau i'r tîm, ac yn ceisio darogan y sgôr.

Mae'r ddau dîm ar yr un nifer o bwyntiau yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd ar ôl i Gymru guro Kazakhstan nos Sadwrn, ac i Ogledd Macedonia ennill oddi cartref yn Liechtenstein.