Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026: Cymru 3-1 Kazakhstan

Cymru v KazakhstanFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 yn erbyn Kazakhstan.

3-1 oedd y sgôr terfynol, gyda Dan James, Ben Davies a Rabbi Matondo yn sgorio i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Sadwrn.

Roedd y gêm yn gyfartal ar ddiwedd yr hanner cyntaf, gyda Davies a Matondo yn sicrhau'r fuddugoliaeth yn yr ail hanner.

Bydd Cymru'n wynebu Gogledd Macedonia oddi cartref yng ngêm nesaf yr ymgyrch, nos Fawrth.

Dan JamesFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd hi'n ddechrau bratiog gyda'r ddau dîm yn colli'r meddiant dan bwysau.

Daeth cic cornel gan Kazakhstan ar ôl pedwar munud ond cafodd y bêl ei glirio gan y dyn gyntaf.

Fe wnaeth tîm Bellamy setlo ar ôl hyn, yn rhoi pwysau ar Kazakhstan a oedd yn cadw pawb tu ôl i'r bêl yn eu hanner eu hunain.

O fewn llai na 10 munud, ar ôl cic cornel, fe roddodd Dan James Cymru ar y blaen ar ôl ennill y bêl oddi ar chwaraewr Kazkhstan yn y cwrt cosbi.

Daeth cyfle da o gic cornell arall i Joe Rodon ar ôl iddo gawrio dros amddiffynwyr Kazakhstan ond iddo roi'r bêl dros y gôl.

Fe gododd Cymru tempo'r gêm, yn rhoi pasys byr at ei gilydd gydag un symudiad da yn gorffen gyda Dan James yn apelio am drosedd ar ymyl y cwrt cosbi.

Ar ôl cyfnod byr ar y droed flaen fe gafodd Kazakhstan gic o'r smotyn ar ôl i Connor Roberts lawio yn y cwrt cosbi.

Fe wnaeth Askhat Tagybergen ei gwneud hi'n 1-1, gyda'r bêl yn rholio dros y llinell ar ôl taro Karl Darlow ar y ffordd.

Roedd cryn dipyn o oedi ar ddiwedd yr hanner wrth i'r tîm dyfarnu wirio trosedd ar Roberts gan Maxim Samorodov a gafodd gerdyn melyn.

Sorba ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn yr ail hanner, roedd y sgôr yn gyfartal am lai na munud gyda pheniad gan Ben Davies o gic cornel Sorba Thomas yn rhoi Cymru ar y blaen.

Er i'r gêm droi'n fratiog ar adegau roedd Cymru'n rheoli'r meddiant ar y cyfan, yn pasio'r bêl yn amyneddgar.

Daeth Jordan James a Mark Harris ar am David Brooks a Brennan Johnson - a gafodd gêm ddistaw mewn gwirionedd.

Fe ddilynodd ergydion da gan Jordan James a Williams o gic rydd wedi ychydig o funudau o'r newidiadau.

Gyda James ar y cae, roedd Cymru'n rheoli'r gêm yn well ac roedd gweddill yr hanner yn ddigon cyfforddus i dîm Bellamy.

Daeth Rabbi Matondo ymlaen am Dan James gyda llai na 10 munud o'r gêm yn weddill.

Ac ar ôl croesiad gwych arall gan Thomas, fe sgoriodd Matondo ei gôl ryngwladol cyntaf i'w gwneud hi'n 3-1.