'Haen ar ôl haen o straen ar y cytundeb'
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi dod â'r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mewn datganiad fod ganddo bryderon am roddion ariannol i ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething, a’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o'r llywodraeth ddydd Iau.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr ap Iorwerth "fod gynnon ni greisis, ma' gynnon ni argyfwng o gwmpas y prif weinidog, o gwmpas y £200,000 y derbyniodd o ar gyfer ei ymgyrch arweinyddiaeth".
Cafodd y cytundeb tair blynedd - oedd yn ymdrin â 46 o feysydd polisi - ei lofnodi ym mis Rhagfyr 2021.
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething bod Llafur wedi'u siomi gyda phenderfyniad Plaid Cymru i ddod â'r cytundeb i ben.