Plaid Cymru yn dod â chytundeb cydweithio gyda'r llywodraeth i ben
- Cyhoeddwyd
Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi dod â'r Cytundeb Cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ben ar unwaith.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mewn datganiad fod ganddo bryderon am roddion ariannol i ymgyrch arweinyddiaeth Vaughan Gething, a’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o'r llywodraeth ddydd Iau.
Cafodd y cytundeb tair blynedd - oedd yn ymdrin â 46 o feysydd polisi - ei lofnodi ym mis Rhagfyr 2021.
Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog Vaughan Gething eu bod wedi eu siomi gyda phenderfyniad Plaid Cymru i ddod â'r cytundeb i ben.
Mae'r cyfarfod brys o Aelodau Senedd Llafur a gafodd ei gynnal i drafod y mater bellach wedi dod i ben.
Wedi'r cyfarfod dywedodd Mick Antoniw AS sy'n aelod o gabinet Vaughan Gething wrth BBC Cymru bod yna "undod llwyr" yng ngrŵp y Senedd o ran y gefnogaeth i'r prif weinidog.
Wrth drafod pleidlais o ddiffyg hyder yn Mr Gething gan y gwrthbleidiau dywedodd: "Ry'n yn hyderus y bydd pawb yn cefnogi y prif weinidog."
Dywedodd hefyd nad oedd penderfyniad Plaid Cymru i ddod â'r cytundeb i ben "yn annisgwyl wrth i ni ddod yn nes at etholiad cyffredinol".
Ar raglen Post Prynhawn Radio Cymru, dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Mae'n safbwynt ni o ran Vaughan Gething yn eglur wrth ein gweithred ni heddiw, ond y cwestiwn ydi a oes gan aelodau Llafur ymddiriedaeth a hyder yn Vaughan Gething?
"Dwi'n sicr yn ymwybodol o'r ffaith bod nifer o aelodau Llafur yn y Senedd neu ar lawr yn siomedig iawn, iawn, iawn yn eu harweinydd newydd nhw - yr amgylchiadau gafodd o ei ethol, y cwestiynau mae o wedi caniatáu i gael eu gofyn ac i amlygu eu hunain dros yr wythnos ddiwetha'.
"Ma' hynny yn y pen draw wedi gwneud i ni sylweddoli mai dyma'r amser i ymwahanu, a dwi'n grediniol y bydd pobl Cymru yn ein cefnogi ni.
"Does 'na ddim amheuaeth ein bod ni mewn sefyllfa gwbl ddigynsail yn hanes datganoli yng Nghymru, bod 'na gwestiynau'n cael eu gofyn am Brif Weinidog sydd heb gael eu gofyn o'r blaen ac mae'n glir bod 'na bwysau o fewn ei blaid ei hun arno fo ond mae'r penderfyniad yn y pen draw yn nwylo'r Blaid Lafur."
Cyfnod cythryblus i Vaughan Gething
Ers i Vaughan Gething gael ei ethol yn Brif Weinidog, mae cwestiynau mawr wedi codi ynglŷn â rhoddion i'w ymgyrch arweinyddiaeth.
Derbyniodd Mr Gething £200,000 gan gwmni ailgylchu Dauson Environmental Group, sy'n eiddo i ddyn sydd wedi cael ei erlyn am dipio gwastraff yn anghyfreithlon.
Dydd Iau fe wnaeth o ddiswyddo'r Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, gan honni ei bod wedi rhannu negeseuon testun â'r cyfryngau.
Daeth hynny ar ôl i stori, a gafodd ei chyhoeddi'n wreiddiol gan Nation.Cymru, ddatgelu bod arweinydd Llafur Cymru wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o gyfnod y pandemig.
Erbyn hyn mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi awgrymu ei bod yn "debygol" y bydd y gwrthbleidiau yn cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder i geisio gorfodi ymddiswyddiad y Prif Weinidog.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth mewn datganiad: “Ers dod yn arweinydd, rydw i wedi bod yn benderfynol o ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif yn gadarn.
"Rwy’n parhau i fod yn bryderus iawn bod y Prif Weinidog wedi methu ag ad-dalu’r rhodd o £200,000 i’w ymgyrch arweinyddiaeth gan gwmni a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, a chredaf ei fod yn dangos methiant sylweddol o farn.
"Mae’r arian dros ben bellach wedi ei drosglwyddo i Blaid Lafur Keir Starmer.
"Mae’r amgylchiadau sy’n ymwneud â’r penderfyniad i ddiswyddo aelod o’r llywodraeth yr wythnos hon - ynglŷn â materion a ddylai fod yn gyhoeddus eisoes - yn peri cryn ofid i mi.
“Rwyf hefyd yn bryderus ynghylch am y ffordd mae’r llywodraeth yn ymagweddu mewn perthynas â rhai elfennau o’r Cytundeb Cydweithio, gan gynnwys y penderfyniad i ohirio gweithredu i gefnogi’r teuluoedd tlotaf yn ein cymunedau, fel y dangoswyd yn fwyaf diweddar yn y penderfyniad i ohirio diwygio’r dreth cyngor.
“Bydd Plaid Cymru yn symud ymlaen gydag ymrwymiad clir a pharhaus i graffu ar record Llafur, gyda phenderfynoldeb o’r newydd i gyflwyno syniadau beiddgar sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau pobl Cymru ar gyfer ein gwlad.”
Beth oedd y cytundeb cydweithio?
Cafodd y cytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru ei lofnodi gan eu harweinyddion ar y pryd, Mark Drakeford ac Adam Price, ddiwedd 2021.
Dywedodd y pleidiau, bryd hynny, ei fod yn gam arall ymlaen yn eu hymdrech i "wireddu addewid o wleidyddiaeth newydd - un sy'n radical o ran ei sylwedd a chydweithredol yn ei ffordd o weithio".
Roedd yn cynnwys cynlluniau i newid treth y cyngor a gwasanaethau cymdeithasol, ehangu gofal plant am ddim a mesurau i fynd i'r afael ag ail gartrefi.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn feirniadol o'r trefniant o'r dechrau, gan ei ddisgrifio fel "gweithred o anobaith a gwallgofrwydd".
Ychwanegodd Mr ap Iorwerth ei fod yn "falch o sut ddangosodd y cytundeb bod math newydd o wleidyddiaeth yn bosibl gan ganolbwyntio ar feysydd polisi sy’n effeithio ar fywydau beunyddiol pobl".
“Mae’r rhain yn cynnwys cyflwyno prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd, ehangu’r cynnig gofal plant am ddim i filoedd yn fwy o deuluoedd, cymryd camau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, camau i ddiogelu’r Gymraeg, creu cwmni ynni cenedlaethol Ynni Cymru a mwy.
"Roedd gweithio ar y cyd yn ymateb adeiladol i anhrefn ac ansicrwydd Brexit a’r pandemig Covid, a’r niwed a achosir gan Lywodraeth Geidwadol y DU.
"Byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod polisïau y cytunwyd arnynt fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio yn cael eu cyflawni."
'Siomedig'
Dywedodd Mr Gething mewn datganiad: "Roedd y cytundeb cydweithio yn enghraifft o wleidyddiaeth aeddfed a chydweithio mewn meysydd lle'r oedden ni yn cytuno.
"Er bod yna wastad derfyn amser ar y cytundeb, mae hi'n siomedig gweld Plaid Cymru'n penderfynu cerdded i ffwrdd o'r cyfle yma i weithredu er lles pobl Cymru.
"Hoffwn ddiolch i Sian Gwenllian a Cefin Campbell am eu gwaith drwy gydol y cytundeb.
"Drwy weithio gyda'n gilydd ry'n ni wedi cyflawni cryn dipyn, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, darparu mwy o ofal plant am ddim a chyflwyno pecyn radical o fesurau i greu cymunedau lleol sy'n ffynnu, gan roi cymorth hefyd i bobl sydd eisiau byw yn lleol drwy fynd i'r afael a nifer yr ail gartrefi yng Nghymru.
"Byddwn ni nawr yn edrych yn ofalus ar sut y bydd modd i wneud cynnydd gyda rhai o addewidion y cytundeb, gan gynnwys y Mesur Addysg Gymraeg a'r papur gwyn ar yr hawl i gartrefi a phrisiau rhent teg."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, mai "ymgais i achub eu hunain rhag embaras" yw penderfyniad Plaid Cymru i ddod â'r cytundeb i ben.
"Gyda'i gilydd mae Llafur a Phlaid wedi gweithio i symud adnoddau i ffwrdd o flaenoriaethau pobl a'u symud tuag at vanity projects fel rhoi mwy o aelodau yn y Senedd ym Mae Caerdydd, ac wedi bod law yn llaw ar bolisïau fel y Cynllun Ffermio Cynaliadwy dinistriol a 20mya.
"Dyw'r penderfyniad yma gan Plaid yn golygu dim, ac ni fydd y cyhoedd yng Nghymru'n cael eu twyllo ganddo."
Gallwch dderbyn hysbysiadau am straeon mawr sy'n torri yng Nghymru drwy lawrlwytho ap BBC Cymru Fyw ar Google Play, dolen allanol neu App Store, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2021