Gething yn diswyddo gweinidog am 'ryddhau gwybodaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog Vaughan Gething wedi diswyddo y Gweinidog dros Bartneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn gan honni ei bod wedi rhyddhau gwybodaeth i'r cyfryngau.
Mewn cyhoeddiad syfrdanol, dywedodd Mr Gething nad oedd ganddo "ddim dewis arall" ar ôl adolygu "datgeliad diweddar o gyfathrebu".
Mae’n dilyn stori, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru, a ddatgelodd fod Mr Gething wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o sgwrs grŵp yn ystod y pandemig.
Mae Ms Blythyn wedi ymateb trwy ddweud, "mae'r hyn sydd wedi digwydd heddiw wedi fy syfrdanu a'm tristáu'n fawr.
"Rwy'n glir, ac wedi bod yn glir, na wnes i, ac nid wyf erioed wedi, ryddhau dim".
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth y dylai Vaughan Gething ystyried ymddiswyddo, tra bod Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, yn dweud bod "angen i Vaughan Gething brofi’n gyflym ei fod yn gallu llywodraethu Cymru".
'Cynnal hyder'
Mewn datganiad byr fore Iau, dywedodd y prif weinidog: "Rwyf heddiw wedi cymryd camau i ofyn i’r Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn i adael y llywodraeth.
"Hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith y mae’r Aelod dros Delyn wedi’i arwain yn y llywodraeth ers 2017, yn fwyaf nodedig ei harweinyddiaeth ar Gynllun Gweithredu LGBTQ+ Cymru, yr adolygiad o’r gwasanaethau tân ac achub, a’i gwaith gwerthfawr gyda phartneriaid cymdeithasol".
Ond mewn datganiad pellach hanner awr yn ddiweddarach, dywedodd y prif weinidog, “ar ôl adolygu’r dystiolaeth sydd ar gael i mi ynghylch y datgeliad diweddar o gyfathrebu i’r cyfryngau, yn anffodus rwyf wedi dod i’r casgliad nad oes gennyf ddewis arall ond gofyn i Hannah Blythyn adael y llywodraeth".
Ymhelaethodd, “mae’n hollbwysig ein bod yn gallu cynnal hyder ymhlith cydweithwyr y llywodraeth fel ein bod yn gweithio fel un i ganolbwyntio ar wella bywydau pobl Cymru.
“O ystyried doniau a phrofiad Hannah, rydw i wedi bod yn glir bod yna lwybr yn ôl iddi ymgymryd â swydd llywodraeth eto yn y dyfodol.
“Mae’r llywodraeth wedi cynnig cefnogaeth barhaus i’r Aelod [o'r Senedd].”
Daeth yn amlwg yn gynharach yn y mis bod Mr Gething wedi dweud wrth weinidogion mewn grŵp tecstio yn ystod y pandemig ei fod yn dileu negeseuon.
Bryd hynny, dywedodd y prif weinidog, oedd yn weinidog iechyd, wrth gydweithwyr y gallai’r negeseuon gael eu dal gan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Roedd Ms Blythyn yn y penawdau ym mis Chwefror pan gyhoeddodd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd rheolaeth uniongyrchol dros Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru oherwydd diwylliant o aflonyddu rhywiol a chasineb at fenywod.
Mae'n cael ei thynnu oddi ar dîm Mr Gething yn dilyn helbul o fewn Llafur ym Mae Caerdydd dros roddion dadleuol i ymgyrch arweinyddiaeth Mr Gething.
'Rhaniadau mewnol'
Ymatebodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd drwy ddweud fod “penderfyniadau Vaughan Gething yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth Llafur yn dal i fyny ag ef.
“Ychydig wythnosau i mewn i’w gyfnod fel prif weinidog, mae Vaughan Gething wedi gorfod diswyddo rhywun".
Rhybuddiodd, “mae angen i Vaughan Gething brofi’n gyflym ei fod yn gallu llywodraethu Cymru, oherwydd, fel y mae, mae ei lywodraeth yn agos at chwalu oherwydd rhaniadau mewnol.”
'Colli ymddiriedaeth'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, “yn ei ddau fis cyntaf ers ei ethol, mae Vaughan Gething wedi tanseilio swyddfa'r prif weinidog ac wedi colli ymddiriedaeth ei blaid a’r genedl.
“Yn hytrach na bachu ar y cyfle i roi Cymru ar lwybr tecach a mwy uchelgeisiol, mae ei gyfnod wrth y llyw wedi’i lethu gan ddadlau, diffyg tryloywder a chwestiynau difrifol am farn.
“Mae diswyddo un o’i weinidogion, a’r honiadau a’r gwrth-honiadau o’i amgylch, yn dangos unwaith eto mai blaenoriaeth y prif weinidog yw hunangadwraeth yn hytrach na lles y cyhoedd.
"Os dylai unrhyw un fod yn ystyried ei sefyllfa, y prif weinidog ei hun yw hwnnw."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd7 Mai 2024