Llyncdwll Merthyr yn tyfu wrth i dywydd garw daro eto
Fe fydd oedi pellach i bobl oedd wedi gobeithio dychwelyd i'w cartrefi ar ôl i lyncdwll agor yng nghanol stad o dai ger Merthyr Tudful.
Roedd disgwyl y byddai modd i drigolion ystâd Nant Morlais ym mhentref Pant - sy'n cynnwys tua 30 o dai - symud yn ôl yn fuan.
Roedd rhaid iddynt adael eu cartrefi ddydd Sul wedi i ffos gwympo gan greu twll mawr.
Ond yn sgil rhagor o law ddydd Iau, dywedodd y cyngor bod maint y llyncdwll wedi cynyddu, a bod gwaith trwsio wedi gorfod cael ei atal am y tro.
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi'r rhybudd mwyaf difrifol - un coch - ar gyfer gwyntoedd cryfion yng Nghymru yn sgil Storm Darragh dros y penwythnos.