Llyncdwll: Oedi i drigolion ddychwelyd wrth i'r twll dyfu

Llyncdwll Nant MorlaisFfynhonnell y llun, Eye In The Sky
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r difrod fod wedi ei achosi gan y tywydd garw yn ystod Storm Bert, yn ôl cyngor Merthyr Tudful

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd oedi pellach i bobl oedd wedi gobeithio dychwelyd i'w cartrefi ar ôl i lyncdwll agor yng nghanol stad o dai ger Merthyr Tudful.

Roedd disgwyl y byddai modd i drigolion ystâd Nant Morlais ym mhentref Pant - sy'n cynnwys tua 30 o dai - symud yn ôl yn fuan.

Roedd rhaid iddynt adael eu cartrefi ddydd Sul wedi i ffos gwympo gan greu twll mawr.

Ond yn sgil rhagor o law ddydd Iau, dywedodd y cyngor bod maint y llyncdwll wedi cynyddu, a bod gwaith trwsio wedi gorfod cael ei atal am y tro.

Yn ôl Cyngor Merthyr Tudful, tirlithriadau yn sgil Storm Bert wnaeth achosi'r twll - sydd rhwng 9-12m mewn dyfnder a phum metr mewn lled.

Doedd yr awdurdod lleol heb roi amserlen ar gyfer pryd y byddai modd i bobl ddychwelyd i'r stad, ond mae'r dyddiad cynharaf bellach wedi ei wthio yn ôl.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod craen oedd yn gweithio ar y safle wedi gorfod cael ei symud, a bod pwmp sy'n ceisio symud dŵr o'r twll yn cael trafferth ymdopi.

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd modd gadael i drigolion ddychwelyd, ac y byddai rhagor o wybodaeth yn y man.