Megan Jones 'methu aros' i gystadlu yn y Gemau Olympaidd

Mae Megan Jones yn dweud ei bod hi "methu aros" i gystadlu yn y Gemau Olympaidd ym Mharis.

Mae'r Gymraes wedi cael ei chynnwys yng ngharfan rygbi saith bob ochr menywod Prydain.

Mae Jones yn chwarae rygbi rhyngwladol i Loegr, ond fe'i magwyd yng Nghaerdydd, ac aeth i Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Dywedodd y byddai ennill medal yn y gemau yn rhywbeth "arbennig" a'i bod yn edrych ymlaen yn arw at yr her.

"Dyw'r Gemau Olympaidd ddim yn dod yn aml," meddai, "felly ni eisiau joio'r profiad gyda'n gilydd".

Yr asgellwr Jasmie Joyce yw unig chwaraewr Cymru yn y garfan, a hi fydd y chwaraewr rygbi cyntaf o Brydain i ymddangos yn y Gemau Olympaidd deirgwaith.