Eluned Morgan: 'Mae arian yn brin, allwn ni ddim gwneud popeth'

Ddiwrnod ar ôl cael ei hethol yn brif weinidog Cymru, mae Eluned Morgan wedi pwysleisio na fydd modd i'w llywodraeth "wneud popeth" gan fod "arian yn brin".

"Mae'n gwestiwn o sicrhau bod ni'n rhoi blaenoriaeth i'r pethau cywir, dyna sy'n bwysig," meddai wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

"Allwn ni ddim gwneud popeth mae pawb eisiau i ni 'neud.

"Ond dwi'n siŵr y bydd rhestrau aros, gwella safonau yn yr ysgol - dwi'n siŵr y bydd y rheini ar restr pobl Cymru, ond ni isie 'neud yn siŵr bod ni y lle iawn o ran rheini."

Eluned Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llywodraeth Cymru, ar ôl cael ei hethol i'r swydd ddydd Mawrth.