Eluned Morgan i benodi gweinidog iechyd newydd

Eluned MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Eluned Morgan benodi gweinidog iechyd newydd ddydd Mercher, ar ei diwrnod cyntaf fel prif weinidog Cymru.

Eluned Morgan yw'r fenyw gyntaf i arwain Llywodraeth Cymru, ar ôl cael ei hethol i'r swydd ddoe.

Cyn hynny, hi oedd gweinidog iechyd Cymru a bydd yn rhaid i'w holynydd geisio delio â rhestrau aros hir a beirniadaeth gan y gwrthbleidiau.

Bydd Ms Morgan hefyd yn cadarnhau Huw Irranca-Davies yn ddirprwy brif weinidog, yn ogystal ag enwi ei chwnsler cyffredinol.

Fe wnaeth Ms Morgan gynnig Mr Irranca-Davies - yr ysgrifennydd newid hinsawdd a materion gwledig - fel ei dirprwy wrth sefyll i fod yn arweinydd Llafur Cymru.

Bydd yn rhaid i'r gweinidog iechyd newydd ymdopi â'r heriau enfawr sy'n wynebu'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol.

Roedd tri phrif weinidog diwethaf Cymru hefyd yn gyfrifol am iechyd.

Mae'n bosib na fydd pwy bynnag gaiff ei benodi ddydd Mercher yn y swydd yn hir, gan fod Ms Morgan am ail-drefnu ei chabinet ym mis Medi.

Disgrifiad,

Dywedodd Eluned Morgan ar raglen Dros Frecwast bod "angen cofio bod arian yn brin"

Cafodd Ms Morgan ei hethol yn dilyn cyfnod cythryblus wrth y llyw i'w rhagflaenydd Vaughan Gething.

"Dyw hi ddim wedi bod yn amser cyfforddus i ni tu fewn i'r Blaid Lafur," meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fore Mercher.

"Ond ry'n ni wedi troi tudalen nawr ac mae'r ffaith bod y Blaid Lafur wedi dod ynghyd, nid just y Blaid Lafur ond tu hwnt i'r Blaid Lafur, yn gweld bod angen i ni ganolbwyntio ar beth sy'n bwysig i bobl Cymru."

Ychwanegodd bod "angen cofio bod arian yn brin".

"Ac felly [mae'n] gwestiwn o sicrhau bod ni'n rhoi blaenoriaeth i'r pethau cywir, dyna sy'n bwysig."

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Eluned Morgan ei hethol yn brif weinidog Cymru ddydd Mawrth

Ychwanegodd: "Allwn ni ddim gwneud popeth mae pawb eisiau i ni 'neud.

"Ond dwi'n siŵr y bydd rhestrau aros, gwella safonau yn yr ysgol - dwi'n siŵr y bydd y rheini ar restr pobl Cymru, ond ni isie 'neud yn siŵr bod ni y lle iawn o ran rheini."

Dywedodd bod cael llywodraeth Lafur yn San Steffan am alluogi "cydweithredu".

"Ges i air gyda Syr Keir Starmer neithiwr ynglŷn â beth yw'r posibiliadau ar hynny.

"Mae wedi dweud yn glir ei fod e am barchu'r setliad datganoli."

  • Gwrandewch ar y cyfweliad llawn gyda phrif weinidog Cymru, Eluned Morgan ar Dros Frecwast yma.