Eluned Morgan wedi ei hethol yn Brif Weinidog Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Eluned Morgan wedi cael ei hethol yn Brif Weinidog Cymru yn swyddogol.
Y cyn-ysgrifennydd iechyd, a ddaeth yn arweinydd Llafur Cymru fis diwethaf, yw'r fenyw gyntaf i fod yn y swydd.
Cafodd y Senedd ei galw yn ôl o doriad yr haf ar ôl i Vaughan Gething ymddiswyddo.
Mewn cyfarfod a barodd ychydig dros hanner awr ddydd Mawrth, cafodd Eluned Morgan ei hethol gyda 28 pleidlais.
Cafodd y Ceidwadwr Andrew RT Davies 15 pleidlais a Rhun ap Iorwerth o Blaid Cymru 12.
Ymunodd aelodau o’r Senedd yn y cyfarfod drwy gyswllt fideo, ac roedd trefniadau wedi’u gwneud i ganiatáu iddynt gymryd rhan o dramor.
Daeth cadarnhad hefyd mai Huw Irranca-Davies yw'r Dirprwy Brif Weinidog newydd.
Cliciwch yma i gael yr holl ymatebion i'r foment hanesyddol hon
'Anrhydedd fwyaf fy mywyd'
Wrth ymateb i'r cadarnhad, dywedodd Ms Morgan mai dyma "anrhydedd fwyaf fy mywyd i sefyll o'ch blaenau heddiw fel y fenyw gyntaf i ddod yn Brif Weinidog Cymru".
"Dyw hwn ddim yn ymwneud â thorri nenfydau gwydr yn unig, mae’n ymwneud â'u chwalu gan ddefnyddio'r darnau i greu mosaig o bosibiliadau newydd," meddai.
“Dwi’n cario gyda fi doethineb cyfunol menywod di-ri sydd wedi brwydro, ymdrechu a dyfalbarhau - llawer heb y gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu."
Fe wnaeth Eluned Morgan gadarnhau mai Huw Irranca-Davies fyddai ei dirprwy brif weinidog, gan ei ddisgrifio fel dyn "impressive", gan ychwanegu: "Allwn i ddim gofyn am bartner gwleidyddol mwy galluog."
Fe fydd hi’n olynu Vaughan Gething, a roddodd y gorau iddi ar ôl i bedwar aelod o’i gabinet ymddiswyddo yr un pryd.
Roedd Mr Gething dan gwmwl gydol ei gyfnod fel prif weinidog oherwydd rhoddion dadleuol o £200,000 i'w ymgyrch arweinyddol gan gwmni dyn gafodd ei ddyfarnu'n euog o droseddau amgylcheddol.
Fe gollodd bleidlais o ddiffyg hyder ynddo wedi i ddau AS Llafur fethu â'i gefnogi.
Cododd ffrae hefyd wedi i Mr Gething ddiswyddo un o'i weinidogion, Hannah Blythyn, am rannu negeseuon testun gyda'r wasg - honiad y mae hithau yn ei wadu.
Ymddiswyddodd Mr Gething, AS De Caerdydd a Phenarth, wedi 118 o ddiwrnodau yn y swydd.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2024
Dyma’r tro cyntaf i’r Senedd gael ei hadalw am bleidlais i gadarnhau prif weinidog newydd, ac mae’n dilyn cais ffurfiol gan Mr Gething.
Rhoddwyd gorau i'r cynllun gwreiddiol iddo aros ymlaen tan fis Medi, ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai Ms Morgan oedd yr unig ymgeisydd i'w olynu.
Pwy yw Eluned Morgan?
Eluned Morgan yw Aelod o'r Senedd Llafur dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Ganed y fenyw 57 oed yng Nghaerdydd ac mae wedi bod yn ysgrifennydd iechyd yn Llywodraeth Cymru ers 2021.
Cafodd ei phenodi gyntaf gan Mark Drakeford, ac fe’i phenodi eto yn gynharach eleni i’r un rôl gan Vaughan Gething.
Pan ymunodd Ms Morgan â Senedd Ewrop ym 1994, hi oedd ond y bumed fenyw o Gymru erioed i gael ei hethol i unrhyw senedd.
Yn Nhŷ’r Arglwyddi, ei theitl swyddogol yw’r Farwnes Morgan o Drelái, ond mae ganddi ganiatâd i fod yn absennol o’r rôl honno ar hyn o bryd.