Elfyn Evans: 'Y nod' yw ennill Pencampwriaeth y Byd
Mae Elfyn Evans yn gobeithio mynd un cam ymhellach eleni, gan ennill Pencampwriaeth Rali'r Byd.
Mae'r Cymro wedi gorffen yn yr ail safle yn y bencampwriaeth bedair gwaith yn y pum tymor diwethaf.
Rali Monte Carlo fydd ras gyntaf y tymor rhwng 23 a 26 o fis Ionawr.
Wrth siarad â'r gohebydd chwaraeon, Owain Llyr, dywedodd: "Monte Carlo ydi un o'r classics ar y calendr ac mae pawb isho ei enw ar y trophy yna.
"Bydd y nod yr un fath i fi eleni ond dwi hefyd yn dallt fel pawb arall fod y rali yma yn bell o fod yn straightforward ac mae isho i lot o bethau i fynd ein ffordd ni."