Capten Cymru, Angharad James, 'mor falch' o'r tîm

Roedd hi'n noson hanesyddol i dîm Cymru nos Fawrth wrth iddyn nhw sicrhau eu lle ym mhencampwriaeth Ewro 2025 ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon o 2-1.

Mae'n garreg filltir bwysig yn hanes pêl-droed merched yng Nghymru gan mai dyma'r tro cyntaf i'r tîm gyrraedd un o bryf gystadleuthau'r gamp.

Wrth ymateb i'r canlyniad, dywedodd capten y tîm, Angharad James, ei bod yn "falch, ac mor hapus i'r merched.

"Ni 'di gweithio mor galed i fod yn y sefyllfa yma ac i fod yma gyda'n gilydd neithiwr, roedd yn deimlad neis."

Dywedodd fod 'na dipyn o ddathlu wedi bod, gyda'r merched ond wedi cysgu am ryw awr nos Lun.