Cyrraedd Euro 2025 'fel breuddwyd' i ferched Cymru

Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Gweriniaeth Iwerddon 1-2 Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae chwaraewyr a chefnogwyr tîm pêl-droed merched Cymru yn dathlu ar ôl creu hanes drwy gyrraedd pencampwriaeth fawr am y tro cyntaf erioed.

Fe lwyddodd Cymru i guro Gweriniaeth Iwerddon o 2-1 yn Nulyn nos Fawrth, 3-2 ar gyfanswm goliau.

Yn ôl Jess Fishlock, sydd yn dal y record am nifer y capiau a goliau i Gymru, dyma oedd y “funud mwya' balch" yn ei bywyd.

Mae nifer o’r cefnogwyr deithiodd i Ddulyn a’r rhai fu’n gwylio adre wedi sôn am eu balchder dros y tîm wrth iddynt ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf.

Dywedodd y capten, Angharad James, bod y fuddugoliaeth yn freuddwyd.

“Mor hapus i’r merched. Ni wedi gweithio mor galed i ddweud y gwir, mae fel breuddwyd ar hyn o bryd. Oedd y gêm yn un wyllt iawn.

"Ond dwi mor falch o’r merched – o’dd hi yn gêm galed, o'n i yn gwbod bod dod i Iwerddon fel hyn, o’dd e ddim yn mynd i fod yn hawdd a nathon ni sticio gyda ein gilydd, a ie ni yn mynd i Switzerland!"

Mae’r Prif Weinidog Eluned Morgan hefyd wedi canmol y tîm, mewn post ar 'X', gan ddweud bod nhw “wedi gwneud Cymru gyfan yn falch”.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Eluned Morgan

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Eluned Morgan
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock yw'r chwaraewraig sydd â'r nifer uchaf o gapiau a goliau i Gymru

Dywedodd brawd Jess Fishlock, Gareth Fishlock, ei fod "mor hapus" dros ei chwaer.

"Mae’n anhygoel i’r wlad a phawb sydd yn rhan ohono," meddai.

"Mae wedi bod yn daith mor hir ac mae hwn yn gymaint o lwyddiant i bawb.

"Ni mor falch drosti hi. Mae’n gymaint o lwyddiant."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lily Woodham yn dathlu gyda'i theulu yn dilyn y fuddugoliaeth

Roedd golygfeydd emosiynol ymhlith y cefnogwyr nos Fawrth, gyda rhai'n agos at ddagrau gyda balchder dros y tîm.

Dywedodd un ei bod "mor nerfus" wrth wylio yn y stadiwm, "ond ar ôl y gôl gynta' 'na, o'dd y momentwm yna, ac ar ôl yr ail gôl, o'n i just yn gw'bod".

Yn ôl un arall oedd yn y stadiwm, doedd dim modd gwylio'r munudau olaf wrth i Weriniaeth Iwerddon bwyso am ail gôl.

"Erbyn diwedd y gêm o'n i ddim yn gallu edrych, o'n i'n edrych ar y llawr ac yn gwrando ar y sŵn", meddai Mair.

"Ond mae'n ffantastig yn dyw e, ffantastig!"

'Neb yn haeddu hyn mwy'

Dywedodd y cyn-gapten, yr Athro Laura McAllister ei bod yn teimlo “yn emosiynol iawn, ond mor, mor falch o ymdrechion y merched”.

Mae hi yn flaenorol wedi dweud y gallai pêl-droed menywod yng Nghymru gyrraedd yr entrychion pe bai'r tîm cenedlaethol yn llwyddo i gyrraedd Euro 2025.

“Rydym ni wedi bod yn disgwyl yn hir iawn am hyn ond roedden ni yn gwybod y byddai y foment yn dod," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

“Does neb yn haeddu hyn mwy na’r sgwad a’r grŵp yma. Gallai ddim bod yn fwy hapus drostyn nhw.

“Dyma fydd fy nhwrnamaint cyntaf fel Is-lywydd UEFA gyda Chymru yna yn cystadlu. Fedrai ddim disgwyl.”

Fe fydd rhaid i Gymru aros tan 16 Rhagfyr i ddarganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn Euro 2025.

'Degawdau o waith caled'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, disgrifiodd y cyflwynydd teledu Sioned Dafydd y noson fel “un hanesyddol”.

"Ti’n lwcus iawn pan ti yn neud y swydd hon weithiau pan ti yn cael un o’r diwrnodau yna ble ti yn meddwl fi yn mynd i gofio hyn am byth ac roedd ddoe yn un o’r diwrnodau yna.

"Dal methu credu bo fi yn gallu gweud y geiriau bod Cymru yn mynd i fod yn yr Euros haf nesaf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dim ond ers mis Chwefror mae Rhian Wilkinson wedi bod yn rheoli'r tîm

Ychwanegodd bod "pawb mor nerfus" ond llwyddodd y merched i "gael ni dros y linell".

"Ni gyd mor prowd ohonyn nhw. Ni'n siarad am ddegawdau o waith caled fan hyn.

"Fi wastad wedi gweud pan ni yn cofio nôl i Euro 2016 pan wnaeth tîm y dynion gyrraedd am y tro cyntaf yr effaith enfawr gafodd hwnna ar bêl-droed yn y wlad, fi wir yn meddwl bod effaith y menywod yn cyrraedd yr Euros yn mynd i fod yn hyd yn oed fwy na hynny o ran y gêm yng Nghymru.

"O ran tyfu gêm y merched, o ran merched ifanc, bechgyn ifanc yn dechrau chwarae mwy o bêl-droed. 'M'ond y dechrau yw hwn."

Pynciau cysylltiedig