Caryl Parry Jones: 'Dewi Pws yn ffrind i bawb'

“Oedd pawb yn cael yr un driniaeth ganddo - parch, hiwmor, a chariad”

Dyna ran o'r deyrnged roddodd Caryl Parry Jones i’r diweddar Dewi ‘Pws’ Morris ar raglen Dros Frecwast fore Gwener.

Daeth cadarnhad fore Iau fod y diddanwr, actor, cerddor, cyflwynydd a'r tynnwr coes wedi marw ar ôl cyfnod o salwch byr.

Roedd Dewi'n "ffrind i bawb" ac roedd o fel "pili pala bach yn mynd at bawb" yn yr ystafell, meddai Caryl.

"Dwi 'di gweld o'n siarad gyda phobl mewn awdurdod, gwleidyddion, a dwi hefyd 'di weld o'n cerdded trwy Gaerdydd a dyn digartref yn codi ei law yn dweud 'alright Dewi, how's it goin'?'.

"'Oedd pawb yn cael yr un driniaeth ganddo ac roedd y driniaeth yna yn un o barch, hiwmor a chariad, a mwy na dim o garedigrwydd.

"Oedd o'n foi hael iawn hefo'i sylw a'i amser ac mi oedd o'n pontio pawb.

"Doedd neb tebyg iddo fo."