Caryl Parry Jones yn cofio yr 'arallfydol' Dewi Pws

Disgrifiad,

  • Cyhoeddwyd

Mae Caryl Parry Jones wedi rhoi teyrnged i Dewi 'Pws' Morris, ei ffrind "chwedlonol" am hanner can mlynedd.

Daeth cadarnhad fore Iau fod y diddanwr, actor, cerddor, cyflwynydd a'r tynnwr coes wedi marw yn 76 oed ar ôl cyfnod o salwch byr.

Mae ei ffrind a'i gydweithiwr am 50 mlynedd, Caryl Parry Jones, wedi rhannu ei hatgofion o'r dyn oedd yn "ffrind i bawb".

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Caryl ei bod yn "hollol starstruck" pan welodd hi Dewi am y tro cyntaf yn 12 neu 13 oed yn perfformio gyda'r Tebot Piws.

Roedd y band yn "ffrwydro ar y llwyfan a'n gwneud y pethau gwirion 'ma - props a just stopio cân ar ei hanner... pan weles i o am y tro cyntaf oedd o' n ormod i fi, o'n i methu siarad," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cast Bechingalw, o'r chwith i'r dde: Emyr Wyn, Dewi 'Pws' Morris, Caryl Parry Jones, Rhys Parry Jones

Bu llwybrau'r ddau'n croesi'n gyson wedi'r perfformiad cyntaf gyda'i gilydd yn Nia Ben Aur rai blynyddoedd yn ddiweddarach, pan oedd Caryl yn 16 oed.

Ond mae ei hargraff gyntaf o Dewi yn ffres yn ei chof a'n ei hatgoffa o ddywediad glywodd ganddo'n aml.

"Roedd gan Dewi dipyn bach o ddywediad a 'AFAL' oedd hwnna," meddai.

"'Sa chdi'n gofyn 'be ti di neud wan' a 'sa fo'n deud 'AFAL' - anything for a laugh - a mi fysa fo'n mynd i drafferth mawr, lot o gynlluniau weithie, just i wneud siŵr bod 'na jôc.

"Ella bod o ddim mor bwysig â hynny i be oedd yn mynd ymlaen ond oedd o yna just er mwyn gwneud pobl yn hapus."

'Cymysgedd o Peter Pan a'r pibydd brith'

Dywedodd Caryl fod y llif o deyrngedau ar ôl ei farwolaeth "yn dangos faint o bobl oedd o wedi eu cyffwrdd yn ei fywyd".

"Oedd neb yn ddieithryn gan Dewi," meddai.

"Oedd o wrthi'n gwneud ffrindiau trwy'r amser... oedd o'n mynd fewn i siop ac o fewn eiliadau mi fyddai wedi anwylo ei hun tuag at y bobl oedd yn gwasanaethu a fysa fo wedyn yn rhannu jôc a dyna ni, oedd o wedi cyffwrdd bywyd, fel 'na oedd o."

Roedd Dewi yn "foi digyfnod" yn ôl Caryl. "Fysa fo 'di gallu ffitio mewn i unrhyw gyfnod hanesyddol ac mi fydda fo wedi cael ei gofio am y cymeriad oedd o.

"Oedd o'n gymysgedd o Peter Pan a'r pibydd brith a pob math o ffigyrau chwedlonol eraill.

"Oedd 'na rywbeth arallfydol [amdano]... oedd o mor unigryw - mae o'n un o'r bobl 'na sydd yn mynd i fod yn cael ei gofio mewn hanes am berson nath gwelwyd ei debyg o'r blaen."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws yn cael ei holi yn y rhaglen Sgwrs Dan y Lloer ar S4C yn 2021

Roedd Dewi'n "ffrind i bawb" ac mi oedd o fel "pili pala bach yn mynd at bawb" yn y stafell, ychwanegodd Caryl.

"Dwi 'di weld o'n siarad gyda phobl mewn awdurdod, gwleidyddion, a dwi hefyd di weld o'n cerdded trwy Gaerdydd a dyn digartref yn codi ei law yn dweud 'alright Dewi, how's it goin'?'.

"Roedd pawb yn cael yr un driniaeth ganddo ac oedd y driniaeth yna yn un o barch, hiwmor a chariad, a mwy na dim o garedigrwydd.

"Oedd o'n foi hael iawn hefo'i sylw a'i amser ac oedd o'n pontio pawb, doedd neb tebyg iddo fo."

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws yn ystod ymddangosiad ar y rhaglen Disc a Dawn yn y 1970au gyda'r grŵp Y Tebot Piws

Does "dim amheuaeth" fod ei gyfraniad am barhau, meddai Caryl.

"Mae gan bawb stori amdano fo, mae o wedi cyffwrdd pobl mewn gwahanol ffyrdd.

"O'n i'n hel fy atgofion neithiwr am y holl bethau stupid nath o neud dros y blynyddoedd just er mwyn codi gwen! Ac oedd o fel hogyn bach yn gigglo ac yn tynnu coes a just yn gwneud y pethau silly iawn 'ma er mwyn codi gwen.

"Ond wedyn mae gennym ni'r gerddoriaeth hefyd. Y gerddoriaeth sydd wedi troi fewn i alawon gwerin eu hunain.

"Dwi'm yn meddwl fod pobl yn gwybod fod Lleucu Llwyd yn gan gath ei sgwennu yn yr 20fed ganrif, dwi'n meddwl fod pobl yn meddwl ei bod hi'n alaw werin erbyn hyn a'r llinell hyfryd 'na 'ac rwy'n nabod sŵn yr esgid' - mae'n ffordd mor hyfryd a chariadus o ddeud rhywbeth... chwedlonol!"

Pynciau cysylltiedig