Cofio Cymru v Lloegr ar y teledu yn Gymraeg am y tro cynta'

Mae eleni yn nodi 35 mlynedd ers i gêm rygbi ryngwladol gael ei darlledu ar y teledu yn y Gymraeg am y tro cyntaf.

Huw Llywelyn Davies a'r diweddar Ray Gravell oedd yng Nghaerdydd y diwrnod hwnnw i sylwebu ar Gymru yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Ond pam fod Grav wedi dod yn agos i gael y sac cyn i'r rhaglen hyd yn oed fynd ar yr awyr?