Sylwebu ar gêm fyw yn y Gymraeg a Saesneg

Mae sylwebu mewn dwy iaith yn dipyn o gamp. Ond mae gwneud hynny yn ystod un gêm fyw yn rhyfeddach fyth.

Huw Llywelyn Davies sy'n cofio'r adeg pan fu'n rhaid iddo gamu i'r adwy wedi i sylwebydd y BBC gael ei daro'n wael yn ystod gêm Chwe Gwlad yn 2013.