Triongl Evo: Tri dyn yn cyfaddef gyrru'n beryglus

Mae tri dyn wedi pledio'n euog i gyhuddiadau o yrru'n beryglus ar ffyrdd yng ngogledd Cymru sy'n cael eu hadnabod fel y Triongl Evo.

Mae Alexander Smith, 21 oed o Groesoswallt, Lewis Gething, 22 o Gei Connah, a Jak Kitchener, 21 o Blackburn, wedi cyfaddef gyrru ar gyflymdra o dros 100 m.y.a.

Roedd y tri yn gyrru ar hyd ffyrdd yr A543 a'r B5401 yn siroedd Dinbych a Chonwy ar 17 Mehefin y llynedd.

Fe gafodd y dynion eu cyhuddo ar ôl i ddeunydd fideo ohonynt yn gyrru gael ei roi ar Youtube gan Jak Kitchener.

Fe wnaeth y barnwr gytuno gyda'r erlyniad fod y ffyrdd yn cael eu defnyddio fel "trac rasio", a'i fod yn "boblogaidd" gyda dynion ifanc sy'n credu eu bod nhw'n cael gyrru'n gyflym.

Dywedodd y barnwr wrth y tri y bydden nhw i gyd yn derbyn dedfryd o garchar wedi'i ohirio.