Ta-ta Tokyo ond dim ots... ni yn Otsu!

Dwy gêm grŵp wedi eu chwarae ac mae pethau'n edrych yn dda i garfan Warren Gatland.

Dwy fuddugoliaeth, naw pwynt a Chymru ar frig grŵp D - aros yno yw'r nod!

Mae'r crysau cochion bellach wedi gadael twrw Tokyo ac wedi ymgartrefu yn Otsu - dinas sy'n gartref i bron i 350,000 o bobl ar lan Llyn Biwa.

Cael tipyn o seibiant yw'r cynllun wedi dwyster y dyddiau diwethaf, gadel i'r cyrff, y cyhyrau a'r meddyliau ymlacio rywfaint cyn wynebu Fiji yn Oita.

Mae angen mwy o orffwys ar rai na'i gilydd gyda'r maswr Dan Biggar yn cael ei asesu yn gyson ar ôl iddo gael ergyd i'w ben yn y fuddugoliaeth yn erbyn Awstralia.

Mae pethau yn edrych yn gadarnhaol yn ôl hyfforddwr cicio Cymru Neil Jenkins, sy'n disgwyl y bydd Biggar ar gael ar gyfer y gêm nesaf ac yn ôl ar y cae ymarfer ddydd Gwener.

I ddilyn hynt a helynt Gareth a Catrin yn Japan ewch i wefan neu app BBC Sounds a lawrlwytho Podlediad Cwpan Rygbi'r Byd.