Coronafeirws: 'Awyrgylch iasoer' strydoedd yr Eidal
Ers dechrau'r wythnos mae'r Eidal gyfan dan fesurau yn cyfyngu ar symudiadau pobl yn sgil ymlediad y coronafeirws.
Er bod yr haint bellach yn effeithio ar nifer o wledydd yn Ewrop, mae wedi taro'r Eidal yn arbennig o wael gyda dros 15,000 o achosion a 1,000 o farwolaethau hyd yn hyn.
Mae Dewi Tudur yn byw yn rhanbarth Twscani yn yr Eidal, ac yn dweud bod strydoedd y trefi a phentrefi cyfagos yn wag bellach wrth i bobl aros yn eu tai.
"Mae'r sgwâr yn llawn yn ddyddiol pan a'i lawr [fel arfer]," meddai. "Rŵan does 'na neb yna."