Helena Jones: Llefaru i Ddysgwyr 2016

Mae yna broblem

Nid yw'r cynnwys yma ar gael.

Uchafbwynt Iwan Griffiths a Heledd Cynwal, cyflwynwyr yr Eisteddfod Genedlaethol ar S4C

Iwan Griffiths: Yn syth, yr hyn sy'n dod i'r meddwl am ryw reswm wrth i'r atgofion lifo yw gweld Helena Jones, a hithau'n 99 mlwydd oed, yn perfformio ar lwyfan Eisteddfod y Fenni yn 2016.

Alla i ddweud â'm llaw ar fy nghalon i mi golli deigryn. Pam, dwi ddim yn siŵr. Am fod unigolyn oedd wedi byw am bron i ganrif yn teimlo'r awydd i sefyll ar lwyfan yn llefaru'n y Gymraeg? Neu am ei bod wedi teimlo'r angen, yn hwyr iawn yn ei bywyd i ddysgu'r iaith?

Beth bynnag ddigwyddodd ar y prynhawn hwnnw, mi fyddai'n cofio'r awyrgylch greodd Helena am byth. Ac er iddi anghofio'r geiriau, er na daeth Helena i'r brig, roedd hi'n fuddugol yn fy llygaid i a phawb arall gafodd y fraint o'i chlywed.

Heledd Cynwal: O edrych nôl ar yr Eisteddfodau sydd wedi bod dros y blynydde' dwetha', mae un person wedi aros gyda fi gan iddi greu argraff fawr arnai yn Y Fenni - Helena Jones.

Ar y pryd, yn 2016, fe welson ni Helena yn swyno'r gynulleidfa yng nghystadleuaeth y llefaru i ddysgwyr yn 99 mlwydd oed, ac i goroni'r cyfan, ar ôl derbyn ei chanmoliaeth am lefaru, fe ganodd pawb yn y pafiliwn Penblwydd Hapus iddi.

Fues i'n hynod o lwcus i gwrdd â hi wedi iddi gystadlu, a threulio prynhawn difyr iawn yn ei chwmni, yn cael hanes ei bywyd, a pham aeth ati i ddysgu'r Gymraeg. Atgof i'w drysori am wraig wnaeth ysbrydoli. Diolch Helena.