Ail gartrefi: 'Fedrwn i ddim aros tan fis Mai'

Bu aelodau o Gyngor Tref Nefyn yn cyfarfod gyda'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ddydd Mercher i drafod y sefyllfa dai yn yr ardal.

Ym mis Medi, aeth rhai o'r aelodau ar daith gerdded i Gaernarfon i fynegi anfodlonrwydd gyda'r codiad mewn prisiau tai o ganlyniad i eiddo'n cael ei brynu fel tai haf.

Maen nhw wedi bod yn ymgyrchu i berswadio Llywodraeth Cymru i ymyrryd gan fod hyn yn "prisio pobl allan o'r cymunedau y cawson nhw'u magu ynddynt".

Rhys Tudur o Gynor Tref Nefyn fu'n siarad gyda Cymru Fyw wedi'r cyfarfod.