Y brawd 'anhygoel' sydd wedi rhoi aren i'w chwaer

Cafodd Mali Elwy o Lansannan y sir Conwy ddiagnosis o ganser pan oedd yn dair oed.

Roedd y ferch 19 oed i fod i dderbyn trawsblaniad aren gan ei brawd Morgan ddydd Llun 24 Awst, ond bu'n rhaid canslo'r llawdriniaeth oherwydd y pandemig.

Ond yna, ychydig cyn y Nadolig, fe ddaeth yr alwad i ddweud y byddai'r llawdriniaeth yn gallu digwydd.

Fe aeth y ddau i'r ysbyty - un i roi, a'r llall i dderbyn - anrheg Nadolig unigryw ac arbennig.

Nawr mae Mali a Morgan wedi bod yn sôn am y profiad, a sut y maen nhw'n teimlo erbyn hyn.