'Golau yng nghefn y twnnel' i gartrefi gofal
Mae cartref gofal yng Ngwynedd a brofodd oedi i'w gyflenwad o frechiadau Covid-19 yn dweud bod eu preswylwyr bellach wedi derbyn y brechlyn a bod hynny'n "cynnig gobaith mawr".
Roedd cartref gofal dementia Meddyg Care yng Nghricieth fod i dderbyn eu cyflenwad o frechiadau Oxford/AstraZeneca ddydd Mercher diwethaf, ond ni chyrhaeddon nhw tan wythnos yn ddiweddarach.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Mawrth eu bod wedi profi "problemau logisteg" wrth ddosbarthu'r brechlyn, ond bod hynny bellach wedi ei ddatrys.
Mae'r 40 o breswylwyr rŵan wedi derbyn eu brechlyn, a'r cartref gofal yn dweud eu bod nhw'n "hapus dros y teuluoedd".
"Dwi 'di ffonio ambell i deulu heddiw ac mae pawb jest wedi diolch am fod mor garedig," meddai rheolwr y cartref gofal, Lorna Jones.
"I'r teuluoedd mae'n rhoi gobaith iddyn nhw, gobaith mawr mewn rhyw ychydig allan nhw ddod i mewn ar ôl yr ail frechlyn ond mae 'na olau yng nghefn y twnnel rŵan!"