Cartref gofal yn cwestiynu oedi ar ôl aros am frechlyn
- Cyhoeddwyd
"Da ni'n bwysig... da ni'r un mor bwysig â phawb arall".
Dyna eiriau rheolwraig cartref gofal o Gricieth lle mae trigolion yn dal i aros am frechlyn AstraZeneca bron i wythnos ers i'r bwrdd iechyd ei addo.
Mae cartref gofal Meddyg Care yn galw ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i egluro pam fod brechu yn y gymuned yn digwydd cyn i'w preswylwyr dderbyn eu dosau.
Yn ôl rheolwraig y cartref, Lorna Jones, maen nhw'n ymwybodol fod pobl dros 80 oed yn y gymuned yn derbyn y brechlyn cyn rhai o'u preswylwyr, sydd meddai, mewn categori blaenoriaeth uwch.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod 'na rai "problemau logisteg" wedi bod ond eu bod nhw'n "ymroddedig" i frechu'r mwyaf bregus.
Ers deg mis a mwy mae'r cartref gofal wedi bod dan glo.
Mae staff wedi cyfyngu ar bwy maen nhw'n gweld a dim ond mewn ardaloedd penodedig o fewn y cartref mae modd i breswylwyr gwrdd â'u teuluoedd.
Mae hynny bellach wedi dod i stop wrth i'r cyfyngiadau fynd yn llymach ond mae'r cartref yn credu fod eu mesuriadau llym wedi llwyddo i osgoi'r un achos o Covid-19.
Yn ôl staff roedd y newyddion y byddai nhw'n derbyn y brechlyn newydd AstraZeneca ddydd Mercher diwethaf yn gyfnod o "hapusrwydd a sicrhad".
Ond bron i wythnos yn ddiweddarach dyw'r cartref heb dderbyn y brechlyn.
"Mae lot ohonom ni heb weld ein teuluoedd a heb gymysgu i 'neud yn siŵr fod y preswylwyr yn saff", meddai Lorna Jones.
"Da ni trio cadw pawb yn upbeat a da ni 'di trio cadw pawb yn saff am 10 mis ac mae o wedi gweithio."
Gyda'r brechlyn eto i gyrraedd mae hi'n poeni'n fawr fod y cartref yn cael ei anghofio.
"Dyna sy'n poeni fi, dwi wedi clywed am gartrefi yng Nghaernarfon sydd wedi cael o.
"So ma'n codi cwestiwn - pam da ni'n heb - be di'r gwahaniaeth?
"'Da ni'n bwysig... 'da ni jest mor bwysig â phawb arall", meddai.
Yn ôl canllawiau blaenoriaeth brechu llywodraethau Cymru a San Steffan, staff a phreswylwyr cartrefi gofal ddylai dderbyn y brechlyn Covid-19 gyntaf.
"Wrth gwrs dwi'n meddwl fod pawb angen eu brechu", meddai rheolwr gyfarwyddwr Meddyg Care, Kevin Edwards.
"Ond dwi ddim yn deall pam fod y bwrdd iechyd wedi symud oddi wrth y rhestr blaenoriaethu yma.
"Ma'n amlwg - os oes 'na frechlynnau yn dod mewn i'r ardal - a ma'n amlwg bod 'na...
"Pam dyw ein preswylwyr heb eu cael nhw.. pam?"
Ymateb y bwrdd iechyd
Yn ôl Teresa Owen, cyfarwyddwr gweithredol iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr mae rhai "problemau logisteg" wedi bod yn yr ardal.
"Mae cyflenwad cychwynnol y brechlynnau i orllewin ardal y bwrdd iechyd wedi achosi rhai problemau o ran logisteg wrth i ni ddechrau ar y rhaglen hon, ond mae brechlynnau bellach wedi cael eu dyrannu i'r holl gartrefi nyrsio a phreswyl yn yr ardal", meddai.
"Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom frechu bron i 10,000 o bobl yng ngogledd Cymru.
"Yr wythnos hon, bydd staff o feddygfeydd gofal cychwynnol yn mynd i'r cartrefi nyrsio a phreswyl lleol i roi'r brechlyn AstraZeneca i drigolion.
"Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod y rhai sydd yn y grŵp agored i niwed hwn yn cael eu brechlyn cyn gynted â phosibl."
Yn ôl ffigyrau brechu diweddaraf Llywodraeth Cymru mae 86,039 o bobl wedi eu brechu yn erbyn Covid-19 ac mae'n fwriad ganddynt i frechu bob oedolyn erbyn yr Hydref.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd7 Ionawr 2021