Cymro o Fôn yn edrych 'mlaen am ras hwylio Cwpan America

Mae ras hwylio Cwpan America ymysg y cystadlaethau uchaf eu parch yn y byd, ac mae Cymro yn gobeithio chwarae rhan flaenllaw yn y gystadleuaeth ddechrau'r flwyddyn nesaf.

Cwpan America ydy'r tlws chwaraeon hynaf yn y byd, ac mae Bleddyn Môn o Amlwch, sy'n rhan o dîm Ineos, yn gobeithio bod y tîm cyntaf o Brydain i ennill y ras.

Roedd Bleddyn yn rhan o dîm Ineos y tro diwethaf i'r ras gael ei chynnal yn 2017, gyda'r tîm bryd hynny'n defnyddio'r enw Land Rover BAR.

Ond cyn y gall ei dîm herio'r deiliaid, Seland Newydd, bydd yn rhaid iddyn nhw drechu'r Unol Daleithiau a'r Eidal.

Bydd Cwpan America 2021 yn cael ei gynnal yn Auckland, Seland Newydd rhwng 6 a 21 Mawrth, gyda'r rowndiau rhagbrofol ym mis Ionawr a Chwefror.