Huw Bryant a'i gôr meibion yn Laos
Mae'r actor tu ôl i gymeriad Bry ar Hansh, dolen allanol, Huw Bryant, wedi dechrau côr meibion yn Laos yn ne ddwyrain Asia wedi i'r pandemig roi stop ar ei gynlluniau i deithio ymlaen oddi yno gyda'i wraig Gwennan.
Roedd y pâr wedi dechrau teithio o amgylch y byd yn 2020, ac wedi treulio mis yn Laos gyda'r bwriad o fynd draw i Cambodia nesaf, pan aeth y wlad i gyfnod clo.
Ar ôl adnewyddu eu fisa am 10 diwrnod yn wreiddiol, maen nhw yn dal yno.
I leddfu ei hiraeth am ganu, aeth y cyn aelod o Ysgol Gerdd Ceredigion ati i ddod o hyd i gôr lleol - ac erbyn hyn mae Huw yn hyfforddi 'côr bois' ac wedi dysgu caneuon fel Cwm Rhondda a Myfanwy iddyn nhw.
Hefyd o ddiddordeb: