Bywyd yn fwy diogel ar ôl symud 'drws nesaf' i Covid
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau 2020, cyn i Covid gyrraedd Prydain roedd Cymraes o Ben Llŷn ychydig yn bryderus wrth iddi symud i Fietnam - yn agos i ganolbwynt y firws.
Flwyddyn yn ddiweddarach, gyda dim ond 35 o farwolaethau mewn gwlad o 100 miliwn o bobl, sut mae Cadi Mai yn cloriannu ei blwyddyn yno o'i gymharu â'r hyn ddigwyddodd yn ôl adref?
"Is it safe for me to fly to Vietnam?" holais yr arbenigwr ar y ward yn Ysbyty Gwynedd pan es i ffarwelio â mam fy nghariad. Ni ddaeth y gair 'Na' o'i enau a dywedodd yn blwmp ac yn blaen nad oedd yn gwybod dim am y firws dieflig hwn.
Roeddwn yn y tacsi yn Llundain a'r tonfeydd yn atsain y cynnydd yn nifer yr achosion a minnau'n hedfan mewn ychydig oriau. Mymryn o bryder, oedd, ond dim digon i fy atal rhag mynd.
Yn ddiarwybod i mi a gweddill y byd, byddai'r firws dieflig yma yn troi'r byd ben i waered - a minnau newydd gyrraedd reit drws nesa iddo yma'n Fietnam.
Cafodd yr achos cyntaf ei gadarnhau yma ar Ionawr 23, dyn oedd wedi teithio o ganolbwynt yr argyfwng ar y pryd yn Wuhan, China, i ymweld â'i fam yn Ho Chi Minh. Roeddwn i'n glanio yn Fietnam yr wythnos ganlynol.
Roedd gan y wlad gynllun brys mewn lle ac er ei fod yn ymddangos fel eu bod yn gor-ymateb ar y pryd, wrth edrych yn ôl dyma'r hyn wnaeth achub y wlad mewn gwirionedd.
O'r gair cyntaf am y firws yn China roedd y wlad wedi mynd ati yn syth i baratoi gan ganslo ffleits rhwng Fietnam ac Wuhan yn syth, caeodd yr ysgolion ac erbyn canol Mawrth roedden nhw wedi cau'r borderi yn gyfan gwbl.
Diheintio lleoliadau
Aethant ati yn ddygn i brofi ac i olrhain symudiadau'r bobl oedd wedi profi'n bositif. Erbyn canol Mawrth roedd Fietnam yn gyrru pawb oedd yn cyrraedd y wlad neu unrhyw un oedd wedi dod i gysylltiad gydag achos posibl i ganolfan cwarantin am 14 diwrnod.
Roedd pawb oedd mewn cwarantin yn cael prawf, sâl neu beidio ac mae rhai'n honni na fyddai 40% o'r achosion gafodd eu cadarnhau wedi gwybod bod ganddyn nhw'r firws.
Mae profi'r achosion posib wedi bod yn hanfodol er mwyn lleihau'r lledaeniad o fewn cymunedau ac roedden nhw'n profi miloedd ar filoedd o bobl yn ddyddiol.
Byddai'r lleoliadau lle'r oedd y bobl oedd wedi eu profi'n bositif yn byw neu'n gweithio neu wedi bod yn cael eu diheintio'n syth gan swyddogion iechyd.
Roedden nhw'n sicrhau bod gan y rhai oedd yn hunan-ynysu gyflenwad da o fwyd a chafodd ATM's reis eu sefydlu yma fel nad oedd pobl yn gorfod mynd heb fwyd.
Roedden nhw'n gweithredu'n llym ond dyna oedd y pris i'w dalu am fisoedd hir heb unrhyw achosion.
Rhaid cyfaddef 'mod i wedi deffro ambell fore yn pendroni a ddylwn i fynd nôl adref i Gymru ond aros oedd yr opsiwn saffa o bell ffordd. Byddai wedi bod yn ormod o risg mynd adref.
Defnyddiodd y llywodraeth amrywiaeth o ddulliau creadigol i drosglwyddo gwybodaeth am y firws i'r cyhoedd a hynny o fewn dyddiau cynnar i'r achosion cyntaf hyd at heddiw. Dwi'n meddwl y byddai gwledydd eraill yn elwa'n fawr o fedru mabwysiadu'r un syniad gan ei bod yn hanfodol cyflwyno'r neges yn glir, rhywbeth na ddigwyddodd adref dwi'n teimlo.
Yma'n Fietnam roedden nhw'n gyrru negeseuon testun yn dweud wrth bobl beth oedd angen ei wneud, cyhoeddi negeseuon cyson ar y cyfryngau cymdeithasol, heb anghofio'r gan enwog am bwysigrwydd golchi dwylo aeth yn feiral.
Mae gennym dudalen Facebook sydd yn dod a'r newyddion diweddaraf i ni ac ap sy'n dangos lle mae'r achosion positif ac achosion positif posibl.
Un o'r pethau sydd wedi fy rhyfeddu yma ydi bod symudiadau'r sawl sydd gan y firws neu achosion posibl yn cael eu cofnodi ar y cyfryngau cymdeithasol a hynny'n fanwl iawn. Maen nhw hyd yn oed yn cyhoeddi cyfeiriad y person a symudiadau'r person y diwrnodau cyn profi'n bositif.
Byddai rhai yn gofyn lle mae'r preifatrwydd yn hyn ond mae wedi profi i fod yn hynod o effeithiol yma ar gyfer profi'r rhai sydd wedi dod i gysylltiad agos a'r person. Mae'n dangos bod pobl Fietnam yn barod i wneud unrhyw beth os ydi hynny'n golygu achub bywydau.
Erbyn canol Mawrth roedd gwisgo masg tu allan yn orfodol ac ers cyrraedd yma ddiwedd Ionawr mae'r masg wedi dod yn rhan o fy ngwisg ddyddiol yma. Nai byth adael y tŷ hebddo.
Doeddwn i methu deall pam nad oedd gwisgo masg yn orfodol ar draws y byd ac roeddwn yn gofyn i bobl adref o hyd: 'oes 'na sôn am fasg eto?'
Ar ôl pythefnos o hyfforddiant i fy swydd yma fel athrawes, cychwynnais ddysgu ar-lein. Yn fuan iawn roedd cynnydd mawr yn nifer yr achosion ac ar Fawrth 31 ar ôl rhai wythnosau o gadw at reolau pellter cymdeithasol aeth y wlad gyfan i gyfnod clo cenedlaethol.
Geiriau'r Prif Weinidog Nguyễn Xuân Phúc oedd: "Mae pob dinesydd yn filwr, pob tŷ, cartref bach, ardal breswyl yn gaer yn erbyn y pandemig", a safodd pawb yn gadarn i'r geiriau hyn a glynu'n dynn i'r drefn.
Deffrais un bore i neges destun gan berchennog fy fflat yn dweud eu bod wedi gadael bocs anferthol o nwdls i ni i'n cadw ni fynd dros y cyfnod clo. Doeddwn i methu credu'r fath garedigrwydd. Yr unig beth fedrwn i wneud oedd crio.
Mi wnaethon nhw hefyd leihau ein rhent ni gan ein bod yn ennill llai o gyflog pan yn gweithio ar-lein.
Heb amheuaeth roedd pobl Fietnam yn barod i wneud rhywbeth os am gael normalrwydd nol yn eu bywydau. Roedden nhw'n barod i ildio popeth; cau eu busnesau, siopau, caffis, bwytai ac aros adref tan i'r bwystfil ddiflannu.
Roedd hi'n ddinas gwbl wahanol. Roedd y ddinas arferai fyrlymu o liw gyda phobl yn gwerthu blodau a ffrwythau yn hollol wag. Y pysgotwyr wedi cadw eu gwialen bysgota am y tro.
Roedd yr heddlu'n patrolio'r strydoedd yn ddyddiol ac yn cosbi'r sawl nad oedd yn dilyn y drefn. Parodd y cyfnod clo am bron i fis ond bu'n hynod effeithiol ac ym mis Mai aeth pethau nol i ryw fath o normalrwydd.
Mae'n braf gweld y bwrlwm a'r lliwiau llachar wedi dychwelyd i'r strydoedd erbyn hyn. Dw i'n edmygu'r teyrngarwch wnaeth y bobl ddangos yn ystod y cyfnod anodd hwnnw.
Dysgu o'r gorffennol
Nid dyma'r tro cyntaf i Fietnam orfod delio gyda haint fel hwn ac maen nhw'n amlwg wedi dysgu gwersi dros y blynyddoedd.
Un o'r prif bethau ddigwyddodd yma yn wahanol i wledydd eraill oedd paratoi ymlaen llaw yn y ffenest fechan oedd ganddyn nhw rhwng pan gafodd yr achos cyntaf ei gyhoeddi yn Tsieina i pan gafodd yr achos gyntaf ei gofnodi yma.
Roedden nhw ar flaen y gad yma yn barod i brofi ond mae'n ymddangos nad oedden nhw wedi paratoi'n ddigon trwyadl ym Mhrydain a'r system brofi ddim yn ei lle, gafodd effaith ar nifer yr achosion a'r marwolaethau.
Tydi Fietnam ddim yn wlad gyfoethog a tydi'r rhan fwyaf o'r boblogaeth ddim yn ennill gymaint â hynny. Ond maen nhw wedi bod yn barod i wneud penderfyniadau anodd er mwyn budd ehangach a chefnogi'r awdurdodau wrth geisio rheoli'r pandemig.
Byddai'r firws wedi llorio'r wlad yn gyfan gwbl pe na fydden nhw wedi gwneud hyn a dyna'r hyn yr oedden nhw'n ei ofni.
Y firws yn ôl
Dechreuais ddysgu'r plantos wyneb yn wyneb ddechrau Mai ac felly y bu pethau tan fis Chwefror eleni pan ddaeth y firws yn nôl i'r wlad, a ninnau yn ôl i gadw pellter a chyfnod clo bychan - lle nad oedd gorfodaeth i aros adra.
Roedd hi'n wythnos cyn gwyliau Tet, sef digwyddiad mawr yng nghalendr pobl Fietnam lle maen nhw'n croesawu'r flwyddyn newydd. Dyma'r un adeg o'r flwyddyn lle mae rhai o bobl Fietnam yn cael gweld eu teuluoedd.
Cyhoeddodd y llywodraeth na ddylai pobl deithio ac y dylai pawb aros adref. Ac felly y bu. Gwrandawodd trigolion Fietnam unwaith eto gan gadw at y rheolau er ei bod yn ddigwyddiad mawr yn eu calendr.
Roeddwn yn dysgu ar lein am ryw fis ond bellach dw i nôl yn dysgu'r plantos wyneb yn wyneb gan fod Fietnam wedi llwyddo unwaith eto i gadw rheolaeth ar y firws.
Gwersi i'w dysgu
Mae 'na wersi i bawb eu dysgu mewn sefyllfaoedd difrifol fel hyn. Dwi'n ama' y byddai hi'n sefyllfa wahanol iawn adra tasa llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gweithredu'n syth a dechrau'r clo mawr lot ynghynt ac nid mynd o gwmpas yn ysgwyd llaw pobl sydd hefo'r firws. Roedden nhw'n rhy ara' deg gyda firws sy'n lledaenu mor gyflym.
Yma'n Fietnam mae neges y llywodraeth a'r rheolau o ran be 'da ni'n cael 'neud wedi bod yn eglur o'r cychwyn. Yn anffodus dwi'n meddwl bod hynny'n wendid mawr ar y lefel Brydeinig a nifer o bobl yn ansicr o'r rheolau oedd yn cael eu cyflwyno.
I mi mae'r ffigyrau yn adrodd cyfrolau: o blith poblogaeth bron o 100 miliwn mae Fietnam wedi cael cyfanswm o 35 o farwolaethau yn sgil Covid-19. Cymharwch hyn â Phrydain sydd hefo poblogaeth o 66 miliwn ond dros 120,000 o farwolaethau.
Does gen i ddim ond y parch y mwyaf at y llywodraeth yma am ddelio gyda sefyllfa mor argyfyngus mewn ffordd mor effeithiol. Mae fy nyled yn fawr iddynt ac i bobl Fietnam am ofalu amdana i. Mae'n wir, mewn undod mae nerth a dwi'n sicr wedi profi hynny yma.
Hefyd o ddiddordeb: