Ychwanegu nifer o wledydd at restr teithio Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
awyren

Mae Llywodraeth Cymru wedi ychwanegu nifer o wledydd at y rhestr o safbwynt y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws).

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u hadolygu'n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud i'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio.

Yn dilyn yr adolygiad diweddaraf ddydd Iau, bydd y gwledydd canlynol yn cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd sydd wedi'u heithrio, ac felly bydd rhaid i deithwyr o'r gwledydd hynny hunan-ynysu pan fyddant yn cyrraedd Cymru.

  • Aruba;

  • Ynysoedd Açore;

  • Bonaire;

  • Sint Eustatius a Saba;

  • Chile;

  • Madeira;

  • Qatar.

Fe wnaeth yr asesiad hefyd ystyried ymddangosiad amrywiolyn newydd ym Mrasil ac mae'n argymell bod yn ofalus nes bod gwybodaeth bendant ar gael.

Fe ddywed y datganiad: "Mae gan Uruguay, Paraguay, Ariannin, Bolivia, Periw, Colombia, Surinam, a Guiana Ffrengig gysylltiadau teithio cryf â Brasil ac mae'r data epidemiolegol a adroddir ganddynt yn cynyddu, sy'n gyson ag amrywiolyn newydd.

"Yn ogystal, mae gan Chile ffin ag Ariannin, sydd wedi adrodd bod yr amrywiolyn yn lledaenu mewn cymunedau a bod ei metrigau epidemiolegol yn cynyddu.

"Felly, rwyf wedi penderfynu y dylid cymryd camau i ddileu'r eithriadau sectoraidd ar gyfer teithwyr sy'n cyrraedd o'r gwledydd hyn y gallai fod cysylltiad rhyngddynt a'r amrywiolyn newydd hwn. Bydd yn ofynnol i bob teithiwr sy'n cyrraedd Cymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod blaenorol hunan-ynysu am 10 diwrnod, a dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y bydd yn gallu gadael y man ynysu.

"Bydd yr un gofynion ynysu hefyd yn berthnasol i bob aelod o'u haelwyd. Bydd y gofynion ynysu cryfach hyn hefyd yn berthnasol i bobl sydd eisoes yng Nghymru sydd wedi bod yn y gwledydd hyn yn ystod y 10 diwrnod diwethaf, ac i aelodau eu haelwydydd.

"Yn ogystal, ni fydd hediadau uniongyrchol o'r gwledydd hyn yn cael glanio yng Nghymru mwyach."

Fe fydd y mesurau ychwanegol sy'n ymwneud ag amrywiolyn Brasil yn dod i rym am 04:00 ddydd Gwener 15 Ionawr, a'r gweddill yn dod i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 16 Ionawr.