Dedfrydu dau am yrru dros 100mya ar ffyrdd y gogledd
Mae dau ddyn wedi cael eu dedfrydu i garchar wedi'i ohirio am yrru ar gyflymderau o dros 100mya yn y gogledd.
Fe wnaeth David Murray a Timor Khayrov o'r Alban ffilmio eu hunain yn torri'r gyfraith ar ffyrdd gwledig Gwynedd a Chonwy, a'i roi ar eu sianel YouTube - Vehicle Villains.
Fe ddaeth y troseddau i'r amlwg wrth i heddwas gyda Heddlu Manceinion weld y fideo a'i adrodd i Heddlu Gogledd Cymru.
Roedd y ddau wedi pledio'n euog yn Llys Ynadon Llandudno fis diwethaf i yrru'n beryglus ar ffyrdd sy'n cael eu galw'n "Driongl Evo" mewn dau gar Porsche ym mis Mawrth 2020.
Cafodd y ddau eu dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener i wyth mis o garchar, wedi'i ohirio am flwyddyn, eu gwahardd rhag gyrru am 18 mis a 200 awr o waith yn y gymuned.