Wcráin: Pryder teulu o Drawsfynydd am anwyliaid

Mae lluoedd Rwsia wedi lansio ymosodiad ar Wcráin ddydd Iau, gyda thaflegrau wedi taro dinasoedd a thargedau milwrol, a milwyr yn croesi'r ffin yn eu heidiau.

Wedi dyddiau o densiynau cynyddol a thrafodaethau rhyngwladol i geisio atal rhyfel, fe gyhoeddodd Vladimir Putin bod "ymgyrch filwrol arbennig" ar droed yn rhanbarth Donbas i "ddadfilwreiddio" Wcráin.

Yn Kyiv mae pobl wedi bod yn ceisio gadael y brifddinas, ond mae'r Arlywydd Volodymyr Zelenskyy wedi annog ei bobl i beidio â chynhyrfu, gan fynnu y bydd ei wlad yn sicrhau buddugoliaeth.

'Nôl yng Nghymru dim ond gwylio ac ofni'r gwaethaf y gall pobl sydd â chysylltiadau â'r wlad ei wneud.

Bu Elen Wyn yn siarad ag un teulu yn Nhrawsfynydd ar ran Newyddion S4C.