Beth mae adroddiad Sue Gray yn ei ddweud?

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi amddiffyn y Prif Weinidog Boris Johnson yn sgil cyhoeddi adroddiad Sue Gray.

Mae'r ddogfen yn manylu ar sut y cafodd staff yn Downing Street bartïon tra bod gweddill y wlad dan glo.

Mae'n tynnu sylw at yfed gormodol, staff yn sâl, a cham-drin staff glanhau a diogelwch.

Dywedodd Simon Hart AS nad oedd unrhyw un yn y llywodraeth yn gwadu ei bod yn "stori ddrwg".

Gohebydd San Steffan BBC Cymru, Elliw Gwawr, sy'n crynhoi canfyddiadau'r adroddiad.