Llwyddiant tîm dynion Cymru yn ysbrydoli'r merched

Mae Natasha Harding yn dweud bod llwyddiant tîm pêl-droed dynion Cymru yn ysbrydoli tîm y merched i geisio eu hefelychu.

Mae'r dynion wedi cyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, a bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal yn Qatar ddiwedd y flwyddyn.

Mae'r merched yn paratoi i wynebu Seland Newydd mewn gêm gyfeillgar ddydd Mawrth, yn Pinatar yn Sbaen.

Dyma'r eildro i garfan Gemma Grainger deithio i dde-ddwyrain Sbaen eleni ar ôl cymryd rhan yng nghystadleuaeth Cwpan Pinatar 2022 ym mis Chwefror.

Mae Seland Newydd yn 22ain yn netholion y byd, ac fe fydd y wlad yn cynnal Cwpan y Byd Merched gydag Awstralia y flwyddyn nesaf.

Mae Cymru yn ail yn eu grŵp rhagbrofol i gyrraedd y gystadleuaeth, gyda dwy gêm allweddol i fynd yn erbyn Groeg a Slofenia er mwyn cyrraedd y gemau ail-gyfle.