Newid enw fferm o Gymraeg i'r Saesneg yn 'fandaliaeth'
Mae pryderon mewn sawl rhan o Gymru am yr arfer dadleuol o newid enwau cynhenid Cymraeg i'r Saesneg, ac mae wedi codi gwrychyn actor o Fôn yn ddiweddar.
Dywedodd John Pierce Jones, sy'n enwog am chwarae rhan Arthur Picton ar C'mon Midffîld, y bu yn ei ardal enedigol o Niwbwrch pan sylweddolodd fod fferm o'r enw Caeau Gwynion wedi cael ei newid i enw amherthnasol Saesneg.
Disgrifiodd y sawl a newidiodd yr enw fel "fandal", gan ychwanegu fod newid "aruthrol" wedi bod i'r ardal dros y blynyddoedd diwethaf o ran y Gymraeg.
Mae'n ymddangos nad yw enw'r fferm wedi ei newid yn swyddogol, ond fod enw Saesneg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ei marchnata fel llety gwyliau.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod "wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod enwau Cymraeg yn yr amgylcheddau adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Ychwanegodd Cyngor Ynys Môn fod eu "pwerau yng nghyswllt enwau tai wedi eu cyfyngu i annog defnydd o'r Gymraeg yn unig".
"Nid oes gennym awdurdod i orfodi perchennog i gadw neu roi enw Cymraeg ar dŷ," meddai llefarydd.