Eisteddfod 2023: 'Awyddus i bobl fwynhau Llŷn gyfan'

Mae cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn dweud fod y trefnwyr yn awyddus i sicrhau fod yr ardal gyfan yn elwa o gynnal y Brifwyl.

Roedd rhai busnesau yn Nhregaron yn dweud eu bod wedi elwa'n fawr o gael y Brifwyl yn yr ardal, ond roedd eraill yn dweud fod rhwystrau i ddenu eisteddfodwyr i ganol y dref.

"Mae'n hawdd iawn dod i Steddfod mewn rhywle fatha Boduan a dim symud o'na," meddai Michael Strain ar Dros Frecwast fore Llun.

Tra'n cydnabod fod angen pobl i ymweld â'r Eisteddfod ei hun er mwyn sicrhau arian i'r Brifwyl, dywedodd ei bod yn "bwysig hefyd bod yr ardal ehangach" yn elwa o gynnal y Brifwyl.

Dywed fod y trefnwyr yn "awyddus bod pobl yn mwynhau Llŷn ac Eifionydd ar ei gyfan", a'u bod hefyd eisiau sicrhau ei bod yn "hawdd iawn" i bobl deithio 'nôl a 'mlaen o bentrefi cyfagos.