Yr Eisteddfod 'yn help mawr' i economi Tregaron
- Cyhoeddwyd
"Mae'r dyddiau diwetha' wedi bod yn brysur iawn ac mae hi wedi bod lot yn fwy prysur nag arfer," medd perchnogion caffi Coffi a Bara yn Nhregaron.
"Mae cael Eisteddfod yn y dre' wedi bod yn help mawr i'r economi fan hyn yn lleol. Ni wedi gweld lot o bethau'n digwydd, pobl yn dod mewn i fan hyn ac yn gwario arian - mae e'n helpu lot."
Gyda disgwyl tua 150,000 o bobl yn ymweld ag ardal bro'r Eisteddfod Genedlaethol, rhwng £6m ac £8m yw amcangyfrif y brifwyl o werth y digwyddiad i'r economi leol.
Twristiaeth a'r diwydiant lletygarwch sydd yn elwa fwyaf.
Yn Nhregaron, mae busnesau wedi bod yn paratoi yn ddyfal ar gyfer wythnos yr Eisteddfod, ac yn disgwyl cyfnod prysur yng nghanol y dref wrth i Eisteddfodwyr heidio i'r ardal.
'Gobeithio y bydd hi'n prysuro'
Yn Neuadd Tregaron mae yna arddangosfa gan grefftwyr lleol.
Dywed Aled Jenkins, un o'r rhai sydd yn arddangos ei nwyddau llechi: "Mae 'di bod yn eitha' tawel, gobeithio y bydd hi'n pigo lan y penwythnos hyn nawr.
"Fi 'di bod mas yn rhoi pamffledi i bobl heddi i drio denu nhw mewn, ac mae pobl 'di bod yn gofyn pa mor bell yw'r dre' o faes parcio'r 'Steddfod, ac efallai gallen nhw 'di bod yn fwy clir ynglŷn â hynna achos dyw hi ddim yn bell o gwbl.
"Y peth arall yw mae cymaint o bethau ar faes yr Eisteddfod, efallai fod pobl yn teimlo bod dim angen iddyn nhw fynd mas."
Ychwanegodd: "Ond bydden i yn apelio ar bobl i ddod lawr i mewn i Dregaron - mae digon o siopau a thafarndai yma a digon i'w weld, fel cofeb Henry Richard a'r eglwys.
"Dewch hefyd i gefnogi ni grefftwyr lleol. Fi'n gweithio â llechen Gymraeg sy' wedi bod ar do tŷ neu adeilad...
"Mae'n neis i weld hwnna wedyn yn byw bywyd bach arall yn y nwyddau fydda i yn eu cynhyrchu."
I rai o'r ymwelwyr sydd wedi mentro o'r maes i'r dre', mae hi wedi bod yn siwrne gwerth chweil.
Fe fuodd Liz Selway o Ddyffryn Conwy yn ymweld ag Eglwys Sant Caron a gweld arddangosfa flodau a ffenestri lliw.
Roedd hwnnw wedi ei phlesio yn fawr - ond roedd hi yn synnu ei fod yn dawel yng nghanol y dre'.
"Rwy'n meddwl bod rheolau llym iawn ar yr aros - er enghraifft roedd y bws oedd yn dod â ni ddim yn cael hawl i ollwng pobl i lawr.
"Felly aethon ni i'r maes a chael bws wennol, ac roedd hwnnw bach yn bryderus ynglŷn â gollwng ni lawr, ond fe wnaeth ein gollwng yn y maes parcio - a diolch amdano fo."
Dywedodd trefnydd a chyfarwyddwr artistig yr Eisteddfod bod gan yr ŵyl berthynas gydag ardal eang, nid Tregaron yn unig.
"Rhaid i ni gofio bod y berthynas gyda'r sir a'r ardal ei hun yn berthynas dwy flynedd - mae 'na weithgareddau ar hyd a lled y sir," meddai Elen Elis ar Dros Frecwast.
"Mae 'na lot o bethau sydd wedi bod yn digwydd lle mae'r economi leol wedi elwa, ddim jest wsos 'Steddfod."
Gofynnwyd a fyddai'r brifwyl yn ystyried symud digwyddiadau yn agosach i ganol trefi yn y dyfodol.
Dywedodd Ms Elis bod Tregaron "dan ei sang neithiwr, y lle yn llawn pobl yn mwyhau eu hunain".
"Rhaid cofio mai gŵyl ydyn ni, felly 'da ni isio darparu ystod o brofiadau anhygoel i'r cynulleidfaoedd ni.
"Wrth gwrs mi fyddan ni'n edrych yn ôl ar 'leni a gweld ac yn asesu - mae pawb yn sgwennu darn o adborth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022