Lluniau preifat ar-lein 'allan o reolaeth' menywod
Mae lluniau preifat menywod "allan o'u rheolaeth" wrth i rai gael eu rhannu, prynu a'u gwerthu ar-lein heb yn wybod iddynt.
Dyna bryder y gyflwynwraig a'r model Jess Davies ar ôl i ymchwil gan raglen Panorama y BBC ddod o hyd i rwydwaith ar-lein oedd yn gwneud hynny.
Roedd gan y grŵp hyd at 20,000 o aelodau, ac mewn rhai achosion, roedd rhifau ffôn a chyfeiriadau'r menywod yn cael eu prynu a'u gwerthu hefyd.
Mae'r grŵp wedi ei ddileu yn sgil y gwaith ymchwil.
Dywedodd Jess Davies "nad yw'n synnu" o glywed canlyniadau'r gwaith ymchwil gan fod ei lluniau preifat ei hun wedi cael eu dwyn a'u camddefnyddio yn y gorffennol.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd bod hynny'n "effeithio ar hunan hyder".
"Ma' fe dal yn awful... mae lot yn dweud bod y cyfryngau cymdeithasol yn cael cyfrifoldeb ond i weld bod 'na 20,000 yn y grŵp yma, dyna'r broblem. Mae 'na demand.
"Mae e yn effeithio ar eich hunan hyder, eich hunan gariad, achos ma' 'na lot o stigma dal rownd cyrff menywod ac rownd pobl sy'n tynnu lluniau [o'u hunain] heb ddillad, os yw nhw'n rhannu fe'n bersonol neu ar-lein, ma' 'na subscription sites a pethau."
Ychwanegodd bod "rheolaeth" menywod dros y lluniau yn diflannu a bod hynny'n ei gofidio.
"Fi wastad yn meddwl amdano fe ac i fi, y pethau sydd wir yn poeni fi yw ti'n teimlo fel nad oes pŵer, mae control ti i gyd wedi mynd a ti ddim yn gwybod pwy sydd efo'r lluniau 'ma, be' ma' nhw 'di 'neud," dywedodd.
"Fi 'di ffeindio lluniau fi'n cael eu gwerthu, traded ar-lein mewn ffolders heb caniatâd fi a ti jyst yn teimlo'n helpless a fi'n meddwl ma' 'na stigma 'na tuag at fenywod a ddim actually tuag at ddynion sydd yn prynu y lluniau 'ma.
"Ma' pawb efo ffôn symudol, ma' pawb yn rhannu pethau, a dylai ddim bod stigma rownd cyrff pobl, dylen nhw gael y dewis 'na os yw nhw eisiau rhannu."
Dywedodd Jess mai'r broblem fwyaf yw'r "caniatâd" dros lun preifat.
"Os wyt ti wedi rhoi caniatâd i dy lun fod ar safle we neu ei rannu gydag un person, dwyt ti ddim wedi rhoi caniatâd i rhannu e efo 20,000 o bobl mewn fforwm lle ma' nhw'n gwerthu lluniau ti."
Mae'r rhaglen Panorama: The Secret World of Trading Nudes i'w gweld ar yr iPlayer nawr ac ar BBC1 am 20:00 nos Lun.