'Pwysig rhannu fy stori endometriosis yn Gymraeg'

"Chi'n teimlo bod eich poen chi ddim yn ddilys achos chi'n dechrau amau'ch hun."

Dyna brofiad Bethan Jenkins, 37 sy'n byw yng Nghwmaman yn Rhondda Cynon Taf, wnaeth aros blynyddoedd cyn cael diagnosis o gyflwr endometriosis.

Er iddi weld "sawl arbenigwr dros y blynyddoedd" gan i'w symptomau barhau i waethygu wrth fynd yn hŷn, mae Bethan yn dweud na chafodd atebion i'w phoen.

Fis Mehefin eleni, fe benderfynodd dalu am driniaeth breifat yn Lloegr, ac fe wnaeth meddygon gadarnhau bod yr endometriosis dros sawl rhan o'i chorff.

Mae Bethan bellach yn codi ymwybyddiaeth am y cyflwr gan fod "diffyg gwybodaeth, yn enwedig yn Gymraeg".

Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Bethan bod ei symptomau wedi dechrau pan yn 13 oed, gyda mislif poenus a thrwm.

"Ar y pryd o'n i jyst yn meddwl bod e'n un o'r pethe 'ny, ond wrth i fi fynd yn hŷn, 'naeth y boen barhau, 'naeth y gwaedu barhau a daeth amryw o symptomau eraill hefyd," dywedodd.

"Felly fe benderfynes i ei bod hi'n bryd gweld arbenigwr."

Dywedodd Bethan ei bod wedi gweld sawl arbenigwr dros y blynyddoedd a nifer wedi dweud wrthi "bod dim byd o'i le."

"Mewn ffordd, mae hynny'n gallu 'neud ichi deimlo bod eich poen chi ddim yn ddilys achos chi'n dechrau amau'ch hunan.

"Un peth fydden i'n dweud, pa mor bwysig yw e, mai chi sy'n 'nabod eich corff chi. Os chi'n teimlo bod rhywbeth ddim yn iawn yna parhewch i fynnu atebion."

Dyna wnaeth Bethan - ond gan dalu £6,000 am driniaeth breifat.

"Fues i'n gweld llwyth o arbenigwyr GIG yn y de [Cymru] a gofynnais i am ail farn ac o'n i dal yn ca'l yr un ateb.

"Ges i dri laperoscopi, sef pan ma' nhw'n mynd mewn trwy'ch botwm bol gyda chamera, a fuon nhw'n chwilio ar fy ngroth a fy ofariau.

"Achos bod nhw ddim 'di gweld dim byd o'n nhw'n gweud bod dim byd yn bod."

Dywedodd Bethan mai un o'r darnau o gyngor gafodd gan un meddyg o Ferthyr oedd cael "pigiad i inducio menopos meddygol".

Ond wrth i Bethan fynd am driniaeth breifat yn Birmingham ym mis Mehefin, fe ddaeth doctoriaid o hyd i'r endometriosis mewn sawl rhan o'i chorff.

"Oedd e gyda fi dros yr holl flynyddoedd."

Mae Bethan wedi bod yn cofnodi ei thaith gydag endometriosis ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu eraill.

Dywedodd bod prinder gwybodaeth yn gyffredinol, ond yn enwedig yn Gymraeg, ac mae'n ceisio llenwi rhan o'r bwlch.

"O'm mhrofiad i, mae cymaint o ddiffyg gwybodaeth am y clefyd, gorffes i 'neud lot o'r gwaith ymchwil am fy salwch fy hun," dywedodd.

"Pan o'n i'n chwilio am y wybodaeth, oedd y wybodaeth byth ar gael yn Gymraeg.

"Yn amlwg ma' 'na bobl yng Nghymru sy'n siarad Cymraeg sy'n dioddef, ac o'n i'n meddwl bod e'n bwysig bo' nhw'n cael cyfle i rannu straeon, profiadau, a ffeindio'r wybodaeth yn eu hiaith eu hunain hefyd.

"O'dd e'n rhywbeth o'n i'n teimlo o'dd yn bwysig i wneud."