'Angen addysg endometriosis i osgoi diodde'n dawel'

  • Cyhoeddwyd
Charl Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charl Davies, sy'n dioddef o endometriosis, ei bod yn credu byddai addysg yn yr ysgol am y pwnc yn "fudd i gymaint o bobl"

Mae menyw sydd wedi byw hefo poen cronig oedd yn achosi iddi lewygu am 17 mlynedd cyn cael diagnosis o endometriosis yn dweud na fyddai wedi gorfod "dioddef mewn tawelwch" petai cael addysg am y cyflwr yn yr ysgol.

Dywedodd Charl Davies, 28 o Flaenafon, ei bod yn frwydr i gael diagnosis, a bod nifer o fenywod sy'n byw hefo'r cyflwr yn cael eu cynghori bod y poen yn rhywbeth normal oherwydd diffyg ymwybyddiaeth.

Daw hyn ar ôl i'r AS Suzy Davies, sydd wedi dioddef o'r cyflwr, alw am i bynciau fel hyn fod yn orfodol mewn ysgolion, fel yn Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i grwpiau sy'n gweithio ar y cwricwlwm newydd ystyried pynciau fel lles mislif mewn mwy o fanylder.

Er bod hyn yn rhoi ychydig o obaith ar gyfer y dyfodol, medd elusen Endometriosis UK, nid yw'n rhoi unrhyw sicrwydd.

Mae endometriosis yn gyflwr ble mae meinweoedd croen sy'n tyfu yn y groth yn tyfu mewn llefydd arall o'r corff - yn aml o gwmpas yr organau atgenhedlu, y coluddyn a'r bledren.

Fel leinin y groth, mae'r meinweoedd yn adeiladu a'n gwaedu pob mis, ond heb unrhyw ffordd i ddianc o'r corff.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Charl Davies bu'n rhaid iddi 'ddioddef mewn tawelwch' oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o endometriosis

Mae'r cyflwr yn effeithio ar un ym mhob 10 menyw yn y DU a gall achosi poen difrifol, mislif trwm ac anffrwythlondeb.

Does dim modd gwella'n llwyr, ond mae triniaethau ar gael sy'n gallu llaesu symptomau.

Dywedodd Endometriosis UK bod menywod yng Nghymru yn aros ar gyfartaledd naw mlynedd am ddiagnosis, yn hirach na chyfartaledd y DU o wyth blynedd.

Ychwanegon nhw fod menywod nawr yn gorfod aros yn hirach o ganlyniad i oedi'n gysylltiedig â coronafeirws, ond y gallai ymwybyddiaeth well o'r cyflwr o oedran iau helpu.

'Crio dros y clefyd'

Datblygodd Charl Davies symptomau pan oedd hi'n 10 oed, a dywedodd bod y boen mor wael roedd yn achosi iddi golli ei gwynt a llewygu.

"Fi'n cofio treuliais rhan fwyaf o'n amser fel plentyn yn crio dros y clefyd a dydw i ddim yn credu dylai unrhyw blentyn 10 oed orfod profi rhywbeth fel hyn, yn codi yn y bore a'n dweud: 'Mam, fi mewn gymaint o boen, fi methu mynd i'r ysgol' ac achos doedd gen i ddim diagnosis doeddwn i methu cael yr amser i ffwrdd o'r ysgol," meddai.

Y flwyddyn ddiwethaf cafodd Ms Davies ddiagnosis, ar ôl cael dau laparoscopi trwy'r gwasanaeth iechyd ac ymgynghoriad meddygol preifat.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Charl Davies laparoscopi er mwyn cael cadarnhad o'r cyflwr

Dywedodd ei fod yn "foment chwerwfelys" cael y cadarnhad.

"Yn y foment yna, o'n i'n teimlo, waw, yr holl flynyddoedd yma. Doedd neb yn gwrando arna'i. Ac o'n i'n teimlo mor emosiynol," meddai.

Dywedodd Ms Davies y gallai mwy o addysg am les mislif yn yr ysgol fod wedi dangos tebygrwydd ei symptomau ac endometriosis, ond yn lle cafodd "ei gadael i ddioddef mewn tawelwch", a'i fod yn cael ei ystyried i fod yn "bwnc tabŵ".

"Fi'n credu byddai'n fudd i gymaint o bobl a'n stopio endometriosis yn gynnar yn hytrach na gadael i'r cyflwr ddatblygu dros flynyddoedd, yn cysylltu ag organau eraill, mae'n cymryd blynyddoedd i hynny ddigwydd."

Disgrifiad,

Addysg endometriosis: 'Os dyw hi ddim yn orfodol, dyw hi ddim yn mynd i ddigwydd'

Mae Suzy Davies - a gafodd ddiagnosis o endometriosis yn ei 40-au hwyr - wedi galw am les mislif i gael ei wneud yn rhan orfodol o'r cwricwlwm newydd fel bod pobl ifanc yn gwybod am yr arwyddion a'n gwybod pryd i gael cyngor.

Cafodd ei wneud yn orfodol mewn ysgolion yn Lloegr y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl Ms Davies: "Roedd adegau pan roeddwn ni bron a llewygu yn y gwaith, ac roeddwn ni'n rhoi hynny lawr i rywbeth arall yn gyfan gwbl ond doedd e ddim.

"Mae'n troi allan i fod yn endometriosis a'r effaith mae'n cael arnoch chi."

Gwrthod mesur yn 'siomedig'

Mae Ms Davies - llefarydd addysg y Ceidwadwyr - wedi ceisio sicrhau bod lles mislif yn orfodol o naill ai'r cwricwlwm neu'r cyfarwyddyd ar ei chyfer.

Cafodd y mesur ei wrthod gan y mwyafrif o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

Er hyn, dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams wrth y pwyllgor ei bod yn cytuno ei fod yn bwnc pwysig ac y byddai'n gweithio gydag un o'r grwpiau sy'n datblygu cyfarwyddyd y cwricwlwm i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i gynnwys lles mislif.

Dywedodd Ms Davies ei bod yn "siomedig" ei fod wedi cael ei wrthod a'i bod hi'n ceisio eto er mwyn sicrhau bod lles mislif "yn cael y sylw sydd angen".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae tyfu lan yn cael effaith mawr ar iechyd a lles dysgwyr.

"Y disgwyliad o fewn y cwricwlwm newydd yw bod ysgolion yn ystyried ystod o bynciau sy'n effeithio ar iechyd corfforol dysgwyr a'n helpu nhw ddeall a delio gyda newidiadau datblygiadol, yn cynnwys y glasoed a chyflyrau megis endometriosis.

"Mae'r Grŵp Addysg Perthnasau ac Addysg Rhyw yn datblygu drafft o gyfarwyddyd ar hyn o bryd bydd yn dod yn rhan o Fframwaith Cwricwlwm Cymru. Rydyn ni'n disgwyl i'r grŵp ystyried pynciau fel lles mislif mewn mwy o fanylder."

Pynciau cysylltiedig