Endometriosis: 'Poen hunllefus bob mis'

  • Cyhoeddwyd
Bethan, Sian, Ann

Mae endometriosis yn gyflwr gynecolegol sydd yn effeithio ar un o bob 10 dynes ym Mhrydain.

Dyma lle mae celloedd fel y rhai yn leinin y groth yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff, fel yr ofarïau a'r tiwbiau Falopaidd, gan achosi poen difrifol a gwaedu trwm, ymhlith symptomau eraill.

Fodd bynnag, mae'n gyflwr sydd yn anodd rhoi diagnosis iddo, ac mae nifer o ferched yn gorfod dioddef blynyddoedd o boen cyn cael y diagnosis cywir. Hyd yn oed wedyn, nid oes modd gwella endometriosis, dim ond ceisio lleddfu'r symptomau.

Dyma brofiad tair sydd wedi dioddef trafferthion difrifol â'u misglwyf ac endometriosis:

"O'dd gen i boen hunllefus bob mis - 'swn i'n deud mod i mewn poen bythefnos o bob mis y flwyddyn. O'dd o'n erchyll, a deud y gwir - o'n i'n gwaedu'n drwm ac yn pasio allan efo'r boen."

Ffynhonnell y llun, Ann Pierce-Jones

Dechreuodd Ann Pierce-Jones, sydd yn 58 oed a bellach yn byw yng Nghaernarfon, ddiodde'n wael gyda'r misglwyf pan oedd hi'n 16. Ar ôl dioddef am dros 15 mlynedd, cafodd ddiagnosis o endometriosis yn 35 oed, ac fe benderfynodd gael hysterectomi llawn yn 42 oed.

"O'n i fewn ac allan o'r ysbyty tan ges i hysterectomi. O'n i'n cael beth oedden nhw'n ei alw'r dyddiau hynny yn D&C, neu scrape. Siŵr mod i wedi cael tua tri o rheiny rhwng mod i'n 16 a 18.

"Pan o'n i'n 26, nes i ffeindio bo' fi'n methu cael plant. 'Nath hynny dorri nghalon i'n llwyr, achos doedd neb yn gallu deud wrtha fi pam. Rŵan, dwi'n gwybod mai'r endometriosis oedd wedi difrodi'r tiwbs. Ar ben y boen o'n i wedi ei ddiodde' ers blynyddoedd, roedd hwnna'n gyfnod brwnt iawn yn fy mywyd i oherwydd o'n i eisiau plant, a dwi'n caru plant yn ofnadwy.

"Ges i'r diagnosis cywir yn 1998. Fues i'n lwcus iawn i gael meddyg oedd â diddordeb mewn endometriosis, a 'naeth o fy agor i a mynd i mewn a laserio'r endometriosis. Oedd o wedi sticio i fy nhiwbs a'n ovaries i, ac erbyn dallt, oedd o wedi sticio i'r bledren a'r bowel hefyd. Roedd popeth wedi eu clymu at ei gilydd oherwydd yr endometriosis."

Ond erbyn fod Ann yn 41, roedd y symptomau yn ôl ac roedd hi'n diodde' eto.

"Mae o'n afiach. Mae o'n amharu ar bob rhan o dy fywyd di. O'n i'n cael mwy o amser off y gwaith na phobl eraill, oherwydd y boen a'r blinder. Dwi'n meddwl fod merched yn eitha' caled ar eu hunain, ac ella ar y pryd o'n i'n meddwl 'paid â bod yn fabi'. Ond mae o mor flinedig a dydi dy gorff di ddim yn gweithio ar 100%.

"Ges i gynnig tablet sydd yn gallu stopio dy fisglwyf di ac yn rhoi symptomau'r menopôs i ti. Ond y broblem ydi, tra mae dy ovaries gen ti a ti'n cynhyrchu oestrogen, does dim posib cael gwared arno fo. Felly, ges i gynnig hysterectomi. O'n i'n 42, yn gwybod mod i methu cael plant yn naturiol, a dyna'r unig ffordd i mi gael gwared arno fo.

"Dyna oedd y penderfyniad cywir, ond ges i amser hunllefus am tua dwy flynedd wedyn, achos bod nhw 'di mynd â'n ovaries i a phob darn o nghroth a'n cervix i.

"Fyswn i ddim yn cynghori neb i fynd am un oni bai eu bod nhw'n gwybod yn union beth maen nhw'n ei wneud, achos do'n i ddim. Be' dydi gynecologists ddim yn ei drafod efo chdi, ydi pa mor bwysig ydi dy hormonau di; dim jest i iechyd y groth, ond iechyd meddwl a rhywiol.

"O'dd y gynecologist a'r meddyg teulu yn deud mod i'n depressed. Nes i fy ymchwil fy hun, a beth ddaeth i fyny oedd erthygl yn deud fod testosteron yn helpu merched sydd wedi cael hysterectomi llawn. Es i weld endocrinologist, wnaeth gytuno efo fi, a ges i'n rhoi ar patches testosteron. A nes i fendio dros nos."

Dydi Ann bellach ddim yn byw gyda'r boen o endometriosis, ond mae'r cyflwr yn fwy na jest poen corfforol, meddai.

"Mae 'na lot o bethau eraill yn dod yn ei sgil o. Mae 'na benderfyniadau caled iawn i'w gwneud, mae 'na bethau cas 'dan ni'n gorfod eu hwynebu. Ac os ydych chi eisiau plant, os nad ydych chi'n cael diagnosis ddigon buan, mae o am effeithio ar hynny hefyd.

Ffynhonnell y llun, Ann Pierce-Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann yn agos iawn gyda'i nith

"Fel rhywun oedd isho plant, pan ti'n ffeindio bod dim gobaith, ti'n teimlo fod dy hawl di fel dynes wedi ei gymryd oddi wrthot ti. Dwi'n cofio torri lawr efo'n ffrind i, a phobman o'n i'n mynd, o'dd pob dynes yn disgwyl... O'dd hwnna'n gyfnod brwnt iawn.

"Ond 'dan ni'n dysgu gwneud bywyd newydd - mae'n rhaid i ni, does, neu waeth i ti roi'r ffidil yn y to. Dwi'n ffrindia' mawr efo genod fy ffrind i, ac mae gen i nith naw oed a dwi 'di cael perthynas ofnadwy o agos efo hi ers y cychwyn cynta'. Dwi 'di cael outlet i'r maternal instinct.

"Dwi'n ofnadwy o lwcus mod i'n berson positif, ac yn berson cryf. A hefyd, o'n i'n ddigon hy i fynd a deud 'dyma dwisho' ond ella fod rhai merched ddim - a fan'no mae'r broblem yn codi. Mae rhai meddygon jest yn derbyn fod merched yn cael poenau efo'r misglwyf, ac wedyn ddim yn mynd ar ei ôl o. Mae angen mwy o ymwybyddiaeth."

"Rhai dyddiau, dw i'n ei chael hi'n anodd symud o'r gwely. Mae'r boen yn treiddio i'r esgyrn yn fy nghluniau ac i lawr cefn fy nghoesau. Mae'n hollol erchyll."

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins

Mae Bethan Jenkins, sy'n 35 ac yn byw yng Nghwmaman, wedi cael problemau gyda'i misglwyf erioed. Ond yn y deng mlynedd diwethaf, mae hi wedi treulio llawer iawn o amser yn dioddef, meddai, ond yn dal i chwilio am y diagnosis cywir ynglŷn â beth sydd yn effeithio arni.

"Dioddef poen, dioddef gwaedu mor drwm na alla i adael y tŷ, dioddef y poen meddwl bod fy ffrindiau yn meddwl mod i'n ddramatig a dioddef meddwl nad oes neb arall yn deall. Ond yn y blynyddoedd diwethaf, dw i wedi dod i ddeall bod llwyth o bobl dw i'n eu nabod (heb sôn am filoedd o ferched ledled Cymru a'r DU) yn yr un cwch â fi.

"Mae'n debyg mai'r atgof cynharaf sydd gen i o'r symptomau rili gwael yw pan oeddwn i'n rhyw 15 oed. Dw i'n cofio dihuno yng nghanol y nos gyda'r poen yma yn fy stumog. Poen oedd yn gwaethygu ac yn mynd yn fwy dwys bob awr.

"Byddai hyn yn digwydd fel cloc bob mis i ddechrau, ond wrth i amser fynd yn ei blaen, roedd y symptomau yn mynd yn fwy ac yn fwy ysbeidiol, a byddai adegau lle byddai hi fel petai rhywun yn troi tap ymlaen yn llythrennol.

"Dw i'n cofio hwn yn digwydd unwaith yn y gwaith, a bu'n rhaid i fy rheolwr ar y pryd roi ei siwmper i mi wisgo o gwmpas fy ngwast gan fod y gwaed wedi mynd i bobman.

"Dyma'r math o beth rwy'n gorfod delio â hi yn aml erbyn hyn - dw i'n gorfod sicrhau mod i'n mynd â dillad sbâr gyda mi i bobman rhag ofn bod rhyw disaster tebyg yn digwydd.

"Wedyn mae'r boen. Dw i wir ddim yn gallu ei egluro hi'n well na'i bod hi'n teimlo fel bod rhywun yn rhoi eu llaw tu mewn i mi, yn gafael yn fy nhiwbs ac yn eu gwasgu a'u troi nes fy mod i yn fy nyblau."

Yn ôl Bethan, mae yna yn bendant deimlad o gywilydd ynglŷn â'r symptomau yma mae hi'n eu dioddef, sydd ddim yn cael ei helpu o gwbl gan agwedd rhai o'r doctoriaid mae hi wedi dod ar eu traws, sy'n tueddu i gyffredinoli profiadau pob dynes o'r misglwyf.

"Dywedodd un doctor wrtha i 'every woman has period pains. Have you ever considered having a baby? Maybe then the pain will go away.' Dw i'n cofio meddwl ar y pryd 'o mai god, ife dyma be ma ffrindie fi'n meddwl? Ydyn nhw'n meddwl 'mod i'n bod yn ddramatig dros ychydig o 'period pains'? Ond i fod yn deg iddyn nhw, maen nhw wedi bod mor gefnogol.

"Mae'r adegau dw i wedi gorfod treulio yn yr ysbyty oherwydd faint o waed dwi'n ei golli neu jest er mwyn rheoli'r boen wedi gwneud i mi sylweddoli 'mod i ddim yn neud ffys am ddim byd, a bod hwn ddim yn normal.

Ffynhonnell y llun, Bethan Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan yn teimlo'n ffodus fod ganddi gefnogaeth ei ffrindiau a'i rhieni

"Ces i laparoscopy tua blwyddyn yn ôl ar ôl talu i weld arbenigwr. Edrychon nhw ar fy ovaries a fy cervix. Beth doeddwn i ddim yn gwybod yw bod y celloedd yma'n gallu tyfu mewn llefydd eraill hefyd - rownd y coluddyn er enghraifft.

"Es i nôl i weld yr 'arbenigwr' yn yr ysbyty - dywedodd e nad oedd ôl endometriosis arna i ond bod gen i polyps a fibroids [tyfiannau abnormal] ar fy ofarïau a cyst bach iawn ar fy cervix. Byddai ceisio cymryd y bilsen eto (un o'r nifer o bethau dw i wedi trio i reoli'r cyflwr) yn siŵr o helpu, ac i ddod yn ôl mewn tri mis.

"Pan es i nôl, nid oedd yr un arbenigwr yno, a doedd dim sôn am fy nodiadau nac am unrhyw cysts, fibroids na polyps. Roeddwn i'n hollol gynddeiriog - dwi'n teimlo fel fy mod yn cael fy mhasio o berson i berson, a neb yn cymryd sylw gan nad ydyn nhw'n cymryd y peth o ddifri.

"Dw i wedi gwneud apwyntiad i weld arbenigwr arall yn fuan, ar ôl gwneud cwyn am y diwethaf. Dw i'n gobeithio cael rhyw fath o synnwyr achos ar hyn o bryd rwy'n teimlo bod fy misglwyf yn rheoli fy mywyd.

"Does dim seibiant. Dw i wedi blino a wedi cael llond bol. Mae'r symptomau i gyd gen i, a dim diagnosis.

"Dw i jest ishe atebion. Dw ishe gwbod beth sy'n bod arna i. Dw i ishe gwella."

"Mae pobl jest yn dweud wrthot ti 'it's just period pains... it's normal'. Wel na, dydy periods ddim fod yn boenus."

Ffynhonnell y llun, Sian Harries

Ar ôl ugain mlynedd o ddioddef symptomau ofnadwy gyda'r misglwyf, cafodd y digrifwr Sian Harries ddiagnosis o endometriosis dair blynedd yn ôl. A hithau bellach yn 39 oed, mae hi'n dweud mai drwy ei hymchwil ei hun mae hi wedi llwyddo i leddfu ychydig ar y symptomau, yn hytrach na chyngor doctoriaid, ac mae hi'n gorfod cynllunio'i bywyd o amgylch wythnos ei misglwyf.

"Pan mae'n period i'n digwydd, dwi'n mynd i'r gwely yn syth, a 'na i weithio o'r gwely am rhyw ddau ddiwrnod. Os ti'n mynd yn syth i'r gwely ac ymlacio, mae e'n haws. Mae stress a ddim cysgu yn ei wneud e'n waeth.

"Dwi'n lwcus, dwi'n gallu gweld pryd mae e'n dod. O'r blaen, o'n i'n gobeithio am y gorau, ac yn trio gwthio fy hun i fynd drwyddo fe: nes i ddringo'r Andes pan o'n i arno, o'n i'n forwyn briodas i mrawd i ac o'n i'n teimlo mod i ar farw, nes i Lefel A Saesneg fi yn gorwedd ar y llawr, dwi 'di gorfod perfformio a bod yn ddoniol yng Ngŵyl Gomedi Caeredin...

"Pan dwi'n edrych nôl, dwi ddim yn gwybod sut nes i e, achos maen nhw'n ei gymharu fe i gael trawiad ar y galon. Ti jest yn meddwl gotto get on with it, ac yn teimlo pwysau i beidio bod yn wuss. Ma'n gneud fi'n grac pan dwi'n edrych nôl arno fe.

"Nawr dwi'n trefnu bywyd fi rownd e. Dwi methu gwneud dim yr wythnos yna, achos dyna pryd fydda i yn y gwely. Dwi'n lwcus, dwi'n gweithio i'n hunan - pwy sa'n gallu gwneud hynny mewn swydd 9-5?"

Mae ei symptomau ychydig yn well y dyddiau yma, yn dilyn llawdriniaeth laparoscopy dair blynedd yn ôl i roi diagnosis ac i dynnu'r endometriosis. Ond mae hi dal i ddioddef bob mis, meddai:

"Ti'n cael brain fog, mae mor od, a dim egni o gwbl. Mae nghoesau i'n achio weithiau hefyd, achos mai inflamation yn y corff yw e. Felly nawr dwi'n trio'i reoli e gyda deiet - yn enwedig yr wythnos cynt.

"Dwi'n trial osgoi unrhyw fwydydd sy'n achosi inflamation, fel glwten a dairy, a dwi'n trial bwyta'n organig. Dwi'n yfed lot o ddŵr ac yn trio osgoi caffein ac alcohol. Dwi hefyd yn gwneud ymarfer corff i helpu - beth bynnag sy'n cael y gwaed i symud rownd, fel yoga a cerdded.

"Dwi'n gwybod bod fy system imiwnedd i'n mynd lawr yn yr wythnos yna, so fi'n dal popeth sy'n mynd rownd. Ges i pneumonia pan o'n i'n cerdded yn yr Andes.

"'Na pham gyda Covid, 'da ni wedi bod yn self-isolatio i ryw raddau. Maen nhw wedi dweud bod e ddim yn amharu ar ferched gydag endometriosis, ond achos bod cyn lleied o wybodaeth mas 'na, 'sa i'n siŵr. A dwi'n nabod corff fy hunan, a dwi'n gwybod mod i'n dala mwy o bethau pan fi arno."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian yn ceisio amserlennu ei gwaith ysgrifennu a pherfformio o amgylch yr wythnos o'r mis ble mae hi'n anodd iddi weithio. Mae hi'n lwcus i gael cefnogaeth gan ei chydweithwyr a'i gŵr, y digrifwr Rhod Gilbert, meddai.

Dydi Sian ddim wedi cael y profiadau gorau gyda meddygon dros y blynyddoedd, meddai - o rai ddim yn cymryd ei symptomau o ddifri i'w nodiadau meddygol yn mynd ar goll, ac mae hi o'r farn fod yna ddiffyg dealltwriaeth yn y maes meddygol, hyd yn oed ymhlith llawfeddygon gynecolegol.

"Es i gyfweld lot o surgeons cyn cael y llawdriniaeth, ac oedden nhw i gyd yn ddynion, a ddim cweit yn deall y darlun cyfan. Do'n i ddim yn teimlo bod nhw'n deall sut beth yw e i fod yn fenyw.

"I rai doctoriaid 'dim ond problem menywod yw e'. Dwi wedi cael cyngor hollol wallgo' dros y blynyddoedd: 'Have you tried having a hot shower?', 'You should stop wearing high heels', 'Have you tried having a baby?' (Ar y pryd, o'n i'n 16, felly na...)

"Mae 'da fi osteopath, sy'n fy helpu drwy crunchio'r esgyrn er mwyn cael popeth i symud rownd yn y stumog a lawr fan'na. Fe yw'r unig berson dwi 'di cwrdd sy'n credu fod deiet yn gysylltiedig gyda fe. Dyw doctoriaid eraill ddim.

"Dwi'n gwybod os ydw i wedi cael mis trwm o yfed a bwyta lot, mae e bendant yn gallu cael effaith. Mae'n osteopath i'n credu ac yn dweud ddylet ti ddim bwyta glwten achos mae e'n gwneud dy stumog di'n inflamed ac yn achosi problemau.

"Mae hwnna 'di bod yn lyfli, cael rhywun sy'n dy gredu di, ac yn deall.

"Ti'n cael y teimlad y dylen nhw edrych mewn iddo fe, yn hytrach na 'patcho fe lan'. Mae llawer o ferched yn mynd ar y bilsen - es i ac o'dd hwnna'n amazing - ond mae'r bilsen, er yn gallu stopio poen, yn gallu ei wneud yn waeth ar ôl i ti ddod off, achos bod yna imbalance estrogen.

"Fi wedi dysgu lot fy hun, ac mewn grwpiau ar-lein, achos y mwya' dwi'n gwybod am y peth, y mwya' dwi'n gallu trefnu fy mywyd rownd e. Ond mae angen mwy o ymchwil i wella fe neu osgoi e.

"Mae gymaint o ferched yn diodde', a 'di pobl ddim yn fodlon siarad am y peth.

"Mae e bob mis - mae e'n relentless - a ti fod i actio fod popeth yn ocê. A mae e'n gallu amharu arnat ti'n cael babi - felly mae e'n gallu newid dy fywyd di.

"Ond mae 'na gymaint o stigma a diffyg dealltwriaeth. Pam fod rhywbeth mae menywod yn mynd drwyddo yn disgusting?!

"Mae popeth iechyd i'w wneud 'da dynion; dydyn nhw byth yn edrych ar gorff menywod. Mae'n hala fi'n mor grac."

Hefyd o ddiddordeb: