'Y wlad i gyd yn teimlo colled enfawr' y Frenhines

Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi bod y Frenhines Elizabeth II wedi marw yn 96 oed.

Bu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau, meddai'r Palas.

Mae arweinwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru wedi talu teyrnged i'r Frenhines, gan gynnwys y prif weinidog Mark Drakeford.

Yn gwneud datganiad tu allan i bencadlys Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd dywedodd y bydd "y wlad i gyd yn teimlo colled enfawr ar ei hôl".