'Ymroddiad di-flino ac anhunanol': Teyrngedau o Gymru i'r Frenhines
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol yng Nghymru wedi talu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II.
Bu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau yn 96 oed, meddai Palas Buckingham.
Fe deyrnasodd am dros 70 o flynyddoedd - y teyrnasiad hiraf yn hanes y Frenhiniaeth.
Daeth cyhoeddiad anarferol fore Iau gan y Palas yn dweud fod doctoriaid y Frenhines yn bryderus am ei hiechyd.
Yn ddiweddarach, am tua 18:30 brynhawn Iau, cadarnhaodd y Palas bod y Frenhines wedi marw.
Mewn datganiad, dywedodd ei hetifedd, y Brenin Charles III: "Mae marwolaeth fy mam annwyl, Ei Mawrhydi Y Frenhines, yn ennyd o'r tristwch mwyaf i mi a holl aelodau fy nheulu.
"Rydym yn galaru'n ddwfn marwolaeth Sofran annwyl a Mam dra hoff.
"Gwn y bydd ei cholled yn cael ei theimlo'n ddwfn drwy'r wlad, y teyrnasoedd a'r Gymanwlad, a gan bobl ddirifedi ar draws y byd.
"Yn ystod y cyfnod hwn o alaru a newid, bydd fy nheulu a finnau'n cael ein cysuro ac ein cynnal gan wybod am y parch a'r hoffter dwys o'r Frenhines gan lawer."
'Ymrwymiad gydol oes'
Wrth i'r wlad gychwyn ar gyfnod o alaru cenedlaethol, mae holl fusnes y Senedd wedi'i ohirio am y tro, gyda baneri'r Senedd yn hedfan ar eu hanner.
Fe dalodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, deyrnged i'r Frenhines gan gyfeirio at "ymroddiad di-flino ac anhunanol Ei Mawrhydi".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones AS: "Gwasanaethodd Y Frenhines Elizabeth II dros y Deyrnas Unedig gydag urddas a enynnodd barch miliynau o bobl o bob cwr o'r byd.
"Teyrnasodd yn ystod cyfnod a welodd newid cyfansoddiadol a chymdeithasol mawr yn ein gwlad. Mynychodd bob seremoni agoriadol ers sefydlu'r Senedd, sy'n adlewyrchu ei chydnabyddiaeth o gyfraniad y Senedd hon i fywyd pobl Cymru.
"Bydd y Frenhines yn cael ei chofio am ei hymrwymiad gydol oes i wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys hyrwyddo llawer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru.
"Mae'r Senedd yn anfon ei chydymdeimlad at ei theulu."
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Liz Truss bod y Frenhines "wedi darparu'r sefydlogrwydd a'r nerth yr oedd ei angen arnom".
Ychwanegodd bod ei marwolaeth yn nodi "diwedd yr ail oes Elisabethaidd", ond y byddai'r wlad yn cefnogi'r Brenin newydd.
"Rydym yn cynnig iddo ein teyrngarwch a selogrwydd, fel y gwnaeth ei fam ymroddi gymaint, i gymaint o bobl, am gyfnod mor hir," meddai.
Fel un wnaeth gyfarfod Frenhines Elizabeth II sawl gwaith, dywedodd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas fod ganddi "berthynas arbennig â Chymru".
Wrth siarad ar BBC Radio Cymru, ychwanegodd ei bod hi a'i swyddogion wedi "cefnogi Cymru yn gyfansoddiadol i ddatblygu datganoli".
"Bob cyfle oedden ni'n ei gwahodd hi a'r teulu i Gaerdydd ar unrhyw achlysur datganoli, oedd hi ar gael, ac roedd hi'n awyddus iawn i ddangos bod hyn yn rhan bwysig o'i brenhiniaeth hi.
"O'dd hi o ddifrif yn deall beth oedd yn digwydd yng Nghymru."
Fe ychwanegodd mai'r "gallu i lywodraethu dros y Deyrnas Unedig yn y cyfnod pan ddaeth yn deyrnas ddatganoledig" oedd ei chyfraniad unigryw ac "fe wnaeth hynny gydag urddas a gyda chyfeillgarwch".
Dywedodd Archesgob Cymru, Andrew John, fod y newyddion wedi dod fel "sioc fawr i ni fel cenedl, y Deyrnas Unedig ond i ni yng Nghymru yn enwedig".
"Fe fyddwn ni'n sicrhau bod 'na gyfle i gofio amdani hi drwy lyfrau i gofio amdani hi, oherwydd mae'r cyn-Frenhines wedi ymgnawdoli bob dim oedd yn dda a pharchus, felly mae'n sioc fawr.
"Ac i sichrau bod pobl yn cael y cyfle i alaru'n gyhoeddus fe fyddwn ni'n cadw ein drysau'n agored er mwyn i bobl ddod i mewn i gofio.
"Nid yma yng Nghymru yn unig, ledled y Gymanwlad, mae'r parch oedd tuag ati hi yn enfawr a 'da ni 'di colli rhywun falle ar y llwyfan byd-eang oedd yn enfawr, felly mae'n sioc wrth gwrs, mae'n sioc fawr."
'Effaith fel neb arall'
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies, fod y Frenhines wedi cael "effaith fel neb arall" ar bobl ar draws y byd.
"I nifer, mae hi wedi bod yn gymaint o ran o'n teuluoedd â'r rheiny sy'n casglu pob dydd o amgylch y bwrdd teuluol," meddai.
"Mewn amser, bydd ein tristwch yn troi yn llawenydd wrth i ni feddwl am yr atgofion mae ei theyrnasiad wedi'u rhoi i'n bywydau ac i'n gwlad."
Ychwanegodd bod modd "calonogi'n hunain yn y ffaith fod y wlad a'r Gymanwlad yn llefydd gwell heddiw o ganlyniad i'w theyrnasiad hir a'i bywyd yn gwasanaethu'r cyhoedd".
Roedd Glyn Davies, cadeirydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, yn amlwg dan deimlad ar BBC Radio Cymru pan wnaeth roi teyrnged.
"'Dyn ni ddim wedi cofio dim byd arall, ond y Frenhines yn bod ar y throne, dyna ni wedi ei wybod," meddai.
"Bydd hi yn anodd i gysylltu gyda y sefyllfa newydd ond bydd rhaid ni 'neud popeth nawr, dyna fydde y Frenhines ishe, ydy rhoi yr un gefnogaeth i Charles.
"Ond mae hi wedi bod yn ffantastig i Brydain - wedi cadw y wlad gyda'i gilydd."
'Ffigwr o gysur ar adegau o argyfwng'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod teyrnasiad Brenhines Elizabeth II wedi gweld "cyfnod o newid aruthrol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a gweddill y byd".
"Roedd ganddi ymdeimlad dwfn o ddyletswydd a bydd miliynau ar draws y byd yn ei chofio fel ffigwr o gysur, sefydlogrwydd a pharhad ar adegau o argyfwng," meddai.
"Ar ran Plaid Cymru, estynnaf ein cydymdeimlad dwysaf i'r Teulu Brenhinol yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Mae'r farwolaeth, medd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, yn nodi diwedd "pennod hir iawn, ac arloesol yn wir, yn hanes ein cenhedloedd ac i'r mwyafrif o bobl mae ei phresenoldeb wedi bod yn un o'r ychydig bethau cyson gydol eu bywydau".
Bydd ei bywyd, meddai, "byth a hefyd yn cael ei gysylltu gyda chyfnod o newid mawr o fewn y DU".
Ychwanegodd: "Roedd Ei Mawrhydi wastad yn gyfaill mawr i Gymru a bydd yn cael ei cholli'n ddwfn o fewn y DU, y Gymanwlad a thu hwnt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022