Y Frenhines Elizabeth II wedi marw yn 96 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Palas Buckingham wedi cyhoeddi bod y Frenhines Elizabeth II wedi marw.
Bu farw yn dawel yn Balmoral ddydd Iau, meddai'r Palas.
Roedd Elizabeth II yn 96 oed, ac yn Frenhines ar 14 o wledydd y gymanwlad ac yn bennaeth ar Eglwys Loegr.
Ganed Elizabeth Alexandra Mary ar 21 Ebrill, 1926 yng nghartref ei thaid yn Llundain.
Etifeddodd y Frenhiniaeth ar ôl marwolaeth ei thad George VI ar 6 Chwefror, 1952.
Cafodd ei choroni yn Abaty Westminster ar 2 Mehefin, 1953, a dyma'r tro cyntaf i'r seremoni gael ei darlledu'n fyw.
Fe deyrnasodd am dros 70 o flynyddoedd - y teyrnasiad hiraf yn hanes y Frenhiniaeth.
Pan gafodd Elizabeth ei geni doedd hi ddim yn disgwyl dod yn Frenhines - roedd ei thad yn ail fab i'r Brenin George V.
Oherwydd natur swil ei thad, roedd y teulu'n byw bywyd tawel, allan o lygad y cyhoedd i bob pwrpas.
Cafodd Lilibet, fel yr oedd yn cael ei hadnabod gan ei theulu, a'i chwaer, Margaret Rose, eu haddysgu gartref.
Newid i'w bywyd
Yn sgil marwolaeth ei thaid yn 1936, daeth newid mawr yn ei bywyd.
Daeth ei hewythr yn Frenin Edward VIII, ond fe ildiodd y goron gan nad oedd ei gymar yn cael ei gweld fel un fyddai'n dderbyniol ar gyfer rôl Brenhines.
Roedd yr Americanes, Wallis Simpson wedi cael ysgariad.
Oherwydd yr anfodlonrwydd, ar ddiwedd 1936 cyhoeddodd y Brenin Edward VIII ei fod yn ildio'r Frenhiniaeth ac felly daeth ei frawd yn Frenin George VI.
10 oed oedd Elizabeth pan ildiodd ei hewythr yr orsedd.
Wedi coroni ei thad yn 1937, roedd cyfnod o deithio, ac ar drothwy'r Ail Ryfel Byd fe wnaeth y Dywysoges gyfarfod am y tro cyntaf â dyn ifanc oedd yn aelod o goleg y Llynges - y Tywysog Philip Mountbatten o Groeg a Denmarc.
Yn 1945 ymunodd Elizabeth â'r Gwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol, a dysgodd sut i yrru a gofalu am gerbydau'r fyddin.
Ar ôl y rhyfel, roedd y Brenin yn dal i deimlo bod ei ferch yn rhy ifanc i briodi, ond roedd Elizabeth yn benderfynol ac yn dilyn ymweliad â De Affrica yn 1947 fe roddodd y Brenin ei fendith.
Ym mis Tachwedd 1947, priododd Elizabeth ei chariad, y Tywysog Philip, neu Ddug Caeredin fel y cafodd ei adnabod yn ddiweddarach.
Roedd y briodas yn "fflach o oleuni" mewn cyfnod llwm ar ôl y rhyfel, yn ôl Syr Winston Churchill.
Ganwyd dau o blant - Charles ac Anne - cyn iddi ddod i'r amlwg bod y Brenin George VI yn wael gyda chanser yr ysgyfaint.
Ym mis Ionawr 1952, cychwynnodd Elizabeth a'i gŵr ar daith dramor.
Ym mis Chwefror, ar lannau Afon Segana yn Kenya, 8,000 o filltiroedd o Lundain, daeth y newyddion i'r Dywysoges am farwolaeth ei thad yn 52 oed.
Y Frenhines ifanc
Dim ond 25 oed oedd y Dywysoges ar y pryd, ac fe ddychwelodd i'r DU fel Brenhines.
Roedd hi hefyd yn Frenhines ar ran helaeth o fap y byd, ac yn cychwyn ar yr ail oes Elizabethaidd.
Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd seremoni coroni'r Frenhines ei darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.
Yn syndod i bawb fe wnaeth hi sefydlogi'r Frenhiniaeth, ac yn y blynyddoedd nesaf cafodd ddau fab arall - Andrew ac Edward.
Roedd y teulu'n addasu wrth i gamerâu teledu gael rhwydd hynt i'w ffilmio yn eu cartref am y tro cyntaf yn 1969 yn ymgymryd â'u dyletswyddau bob dydd.
Yn 1977, wrth ddathlu Jiwbilî Arian y Frenhines, bu partïon stryd ar draws y wlad.
Roedd Elizabeth wrth ei bodd yn cael cyfle i grwydro a chyfarfod â phobl, ond roedd peryglon yn wynebu'r Teulu Brenhinol hefyd, yn arbennig felly mewn oes o drais a therfysg.
Yn 1974 bu bron i'w merch Anne gael ei herwgipio ychydig lathenni o Balas Buckingham.
Yn 1981 fe saethodd dyn ifanc ergydion gwag at geffyl Y Frenhines, a blwyddyn yn ddiweddarach fe lwyddodd dyn o'r enw Michael Fagan i gyrraedd hyd at erchwyn ei gwely yn y palas.
Dyletswydd
Roedd dyletswydd yn air pwysig i'r Frenhines.
Byddai'n ail agor y senedd, yn cyflwyno anrhydeddau ac yn trafod â'r gwahanol brif weinidogion.
Os oedd cymdeithas yn fwy peryglus, roedd hi hefyd yn fwy agored.
Roedd y Teulu Brenhinol yn cael mwy o sylw nag erioed, yn arbennig yn sgil priodas Tywysog Cymru a'r Foneddiges Diana Spencer.
Roedd y diddordeb yr un mor fawr wrth i'r briodas honno ddechrau mynd ar gyfeiliorn.
Erbyn 1992, bywyd personol aelodau'r teulu a sgandalau oedd yn llenwi'r papurau newydd, gydag ail fab y Frenhines, Andrew, wedi gwahanu oddi wrth ei wraig, Sarah Ferguson.
Yna daeth y newyddion bod Tywysog Cymru a'i wraig, Diana, yn anhapus a'u bod nhw hefyd i wahanu.
Yn goron ar y cyfan y flwyddyn honno bu tân enfawr yng Nghastell Windsor - hoff gartref Y Frenhines.
I dalu am adnewyddu Windsor cafodd giatiau Palas Buckingham eu hagor am y tro cyntaf i'r cyhoedd.
Disgrifiodd y Frenhines y flwyddyn fel "annus horribilis".
Cafodd y teulu ei siglo yn dilyn marwolaeth sydyn Diana, Tywysoges Cymru mewn gwrthdrawiad car ym Mharis yn 1997.
Fe gafodd y Frenhines ei hun ei beirniadu, gyda rhai'n dweud nad oedd hi'n arwain mewn cyfnod o alar.
Ond yna fe wnaeth ddarllediad byw, gyda sylw y byddai'r Frenhiniaeth yn addasu - sylw gafodd ei ategu yn ddiweddarach y flwyddyn honno yn nathliadau ei phriodas aur.
Parhau i deithio'r Gymanwlad a Phrydain wnaeth y Frenhines, gan deithio i Gymru'n rheolaidd, gan gynnwys ar achlysuron arbennig i agor y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 ac adeilad newydd y Senedd yn 2006.
Tra bod rhai yn gweld bod ymweliadau brenhinol fel cadarnhad o statws y Cynulliad fel corff, roedd eraill yn anghytuno ac yn gwrthod bod yn bresennol.
Jiwbilî
Roedd marwolaeth y Fam Frenhines a'r dywysoges Margaret ym mlwyddyn Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002 yn gysgod dros y dathliadau.
Chwarter canrif wedi'r holl ddathlu adeg y Jiwbilî Arian roedd y dathliadau llai yn brawf o'r newid agwedd at y Frenhiniaeth, er bod partïon wedi'u cynnal ar draws Prydain, gyda'r Frenhines yn ymweld â llefydd fel Casnewydd.
I ddathlu'r Jiwbilî Ddiemwnt yn 2012, bu'r Frenhines a'i gŵr yng Nghymru am ddau ddiwrnod, gyda gwasanaeth arbennig yn Eglwys Llandaf ac ymweliad â phentref Aberfan.
Nid pawb oedd yn croesawu'r ymweliad, ac roedd protestio yn erbyn y Frenhiniaeth yn Llandaf a Merthyr Tudful.
Ar 9 Medi 2015, Elizabeth II ddaeth y frenhines neu'r brenin i deyrnasu hiraf yn hanes brenhiniaeth Prydain. Cyn hynny, ei hen, hen nain, y Frenhines Victoria deyrnasodd hiraf.
Ym mis Chwefror 2017, Elizabeth II fu'r person cyntaf erioed i ddathlu Jiwbilî Saffir - sef 65 mlynedd ar yr orsedd.
Gyda'r blynyddoedd, fe ehangodd y teulu wrth i'w hwyrion gael plant. Roedd gan y Frenhines wyth o or-wyrion.
Yr hynaf oedd Savannah Phillips - wyres y Dywysoges Anne - a'r ifancaf oedd Archie Harrison Mountbatten-Windsor - mab Dug a Duges Sussex - a aned ym mis Mai 2019.
Blynyddoedd anodd diweddar
Ond cafodd y Frenhiniaeth ei siglo gan nifer o ddigwyddiadau yn ystod 2019 a 2020 hefyd.
Ddechrau 2019, bu Dug Caeredin mewn gwrthdrawiad â char arall ger ystâd Sandringham yn Norfolk. Er na chafodd ei anafu'n ddifrifol, ildiodd ei drwydded yrru yn wirfoddol ar ôl y ddamwain.
Cyfeillgarwch y Tywysog Andrew â Jeffrey Epstein fu o dan y chwyddwydr ddiwedd 2019.
Cafodd Epstein ei gyhuddo o droseddau rhyw, ond parhau wnaeth y cyfeillgarwch rhyngddo â Dug Efrog.
Arhosodd y Dug yng nghartref Epstein yn 2010 ar ôl iddo gael ei ddedfrydu.
Fe wnaeth Newsnight ddarlledu cyfweliad â'r Dug, ac fe arweiniodd hynny at gyhoeddiad y byddai'n rhoi'r gorau i'w ddyletswyddau brenhinol swyddogol.
Ar ddechrau degawd newydd, daeth penderfyniad Dug a Duges Sussex y byddent yn rhoi'r gorau i fod yn aelodau swyddogol o'r Teulu Brenhinol yn dipyn o ergyd i'r Frenhines.
Trefnodd y Frenhines bod Tywysog Cymru, Dug Caergrawnt a Dug Sussex yn dod at ei gilydd yn Sandringham i drafod sut byddai trefniant o'r fath yn gweithio'n ymarferol.
Yn y pen draw, cytunwyd y byddai'r pâr yn colli eu teitlau Eu Huchelderau Brenhinol ond yn cadw statws Dug a Duges. Bu'n rhaid i'r ddau ildio eu nawddogaeth gyda sefydliadau milwrol ac elusennau.
Symudodd y Dug a'r Dduges i Ganada gyda'u mab Archie ym mis Ionawr 2020.
Ddechrau Chwefror 2020, ac yn adlais o annus horribilis 1992, cyhoeddodd ŵyr hynaf y Frenhines, Peter Phillips (mab y Dywysoges Anne) bod ei wraig Autumn Kelly ag yntau'n ysgaru.
Ond er gwaetha'r helbulon teuluol, fe barhaodd y Frenhines â'i dyletswyddau brenhinol gyda'r un ymdeimlad o ddyletswydd. Y ddyletswydd honno a fu'n gymaint rhan o'i theyrnasiad am flynyddoedd lawer.
Effaith y pandemig
Yn fuan iawn ar ôl hynny, daeth y pandemig â dyletswyddau cyhoeddus y Frenhines i ben.
Treuliodd y rhan fwyaf o gyfnod cychwynnol y pandemig yn ynysu yng Nghastell Windsor, wrth i'r newyddion dorri bod ei mab hynaf, Tywysog Cymru, wedi ei heintio â'r feirws.
Ar wahân i'w darllediad ar Ddydd Nadolig, anaml iawn y byddai'r Frenhines yn gwneud anerchiad ar y teledu. Ond gwelodd y flwyddyn 2020 ddwy araith bwysig arall.
Ar 5 Ebrill, gwyliodd tua 24 miliwn o bobl anerchiad y Frenhines wrth iddi ddiolch i weithwyr allweddol am eu gwaith diflino ac i bobl Prydain am gadw at y canllawiau.
Daeth yr araith honno i ben gyda geiriau cân enwog y Fonesig Vera Lynn: "We will meet again".
Yna ym mis Mai, union 75 mlynedd ers anerchiad ei thad, Brenin George VI, gwnaeth araith i nodi tri chwarter canrif ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Ym mis Gorffennaf, aeth i briodas ei hwyres, y Dywysoges Beatrice, yng Nghapel Brenhinol yr Holl Saint yng Nghastell Windsor, gan wneud ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf y prynhawn hwnnw wrth urddo'r Capten Syr Tom Moore yn farchog yng ngerddi'r castell ar ôl iddo godi dros £30m at elusennau'r GIG drwy gerdded ar hyd ei ardd 100 o weithiau ag yntau'n 100 oed.
Yng nghwmni Dug Caeredin, treuliodd y Frenhines gyfnod yn Balmoral yn ystod yr haf a chyfnod yn Sandringham cyn dychwelyd i Gastell Windsor.
Diolch i'r dechnoleg a ddaeth yn gymaint rhan o fywydau pobl yn ystod y pandemig, llwyddodd y Frenhines i barhau â nifer o'i dyletswyddau ffurfiol drwy gyfrwng y we.
Cafodd ei gweld yn sgwrsio gyda gofalwyr, bu'n siarad ag aelodau'r lluoedd arfog a chynhaliodd ei digwyddiad cyntaf ar y we gyda thri o lysgenhadon - hwythau ym Mhalas Buckingham a'r Frenhines yng Nghastell Windsor.
Rai dyddiau cyn Sul y Cofio, fe wnaeth y Frenhines ymweliad preifat ag Abaty Westminster i nodi 100 mlynedd ers claddu'r Milwr Anhysbys yno.
Cafodd ei gweld yn gwisgo mwgwd yn gyhoeddus am y tro cyntaf, a gosododd dusw o flodau ar y bedd, a oedd yn debyg i'r dusw a gariodd ar ddiwrnod ei phriodas.
Daeth yn draddodiad i briodferch frenhinol adael ei thusw ar fedd y Milwr Anhysbys.
Cafodd llun arbennig ei ryddhau ym mis Tachwedd 2020 i ddathlu pen-blwydd priodas y Frenhines a'r Dug - a hynny 73 o flynyddoedd ar ôl eu priodas yn Abaty Westminster yn 1947.
Ac er mwyn cadw at ganllawiau'r pandemig, treuliodd y Frenhines a'r Dug y Nadolig yng Nghastell Windsor yn hytrach na Sandringham, a hynny heb weddill y teulu.
Ym mis Ebrill 2021 bu farw Dug Caeredin yn 99 oed yng Nghastell Windsor, gan adael y Frenhines ar ei phen ei hun am y tro cyntaf wedi 73 mlynedd o briodas.
Eisteddodd ar ei phen ei hun yn yr angladd yng Nghapel San Siôr oherwydd cyfyngiadau Covid, wrth i Ddeon Windsor gyfeirio at "deyrngarwch diwyro" y Tywysog Philip i'r Frenhines.
Er colli ei gŵr fe barhaodd y Frenhines i wasanaethu yn gyhoeddus, gyda'i hymweliad olaf â Chymru yn dod ar 14 Hydref 2021 wrth iddi agor chweched sesiwn y Senedd.
Dyma oedd ei hymweliad cyntaf i Gymru ers 2016, ac yn addas iawn, ei geiriau cyhoeddus olaf yng Nghymru oedd "diolch o galon".
Y flwyddyn wedyn daeth carreg filltir arall, gyda phenwythnos cyntaf Mehefin 2022 yn nodi Jiwbilî Blatinwm y Frenhines - 70 mlynedd o wasanaeth.
Er nad oedd yn bresennol i bob digwyddiad oherwydd ei hiechyd, fe ddywedodd ar ddiwedd y dathliadau ei bod yn parhau i fod yn ymroddedig i wasanaethu fel brenhines.
Ar 6 Medi, fe wnaeth Y Frenhines benodi 15fed Prif Weinidog ei theyrnasiad, Liz Truss.
Ond yn wahanol i'r arfer, fe wnaeth hynny mewn cyfarfod yn Balmoral, yn hytrach na Phalas Buckingham.
Yn dilyn ei marwolaeth mae sylwebyddion brenhinol yn dweud i'r Frenhines Elizabeth II arwain y Frenhiniaeth i'r 21ain ganrif, a hynny mewn modd urddasol dros gyfnod hir.
Fe deyrnasodd am gyfnod a bontiodd ddwy ganrif.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022
- Cyhoeddwyd8 Medi 2022