Cymru v Bosnia: 'Dyma pam ni'n chwarae pêl-droed'
Mae Merched Cymru'n "barod i roi popeth" yn y gêm ail-gyfle Cwpan y Byd yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Iau, meddai Angharad James.
Cyrraedd un o brif gystadlaethau'r gamp yw "pam ni gyd yn chwarae pêl-droed", meddai, ar drothwy'r gêm yng Nghaerdydd.
Os yn llwyddo i ennill nos Iau bydd tîm Gemma Grainger yn hedfan i Zürich i wynebu'r Swistir nos Fawrth nesaf, ond hyd yn oed pe bai Cymru'n ennill honno hefyd, mae'n debyg y bydd yn rhaid iddyn nhw herio tîm o gyfandir arall i sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd.
Bydd y gêm rhwng Cymru a Bosnia-Herzegovina ar gael i'w gwylio'n fyw gyda sylwebaeth Gymraeg ar Cymru Fyw.