Blaenwr Cymru'n rhannu ei phrofiad o fyw ag iselder

Wrth i Gwpan Rygbi'r Byd barhau yn Seland Newydd, mae un aelod o garfan merched Cymru wedi bod yn siarad â Newyddion S4C am fyw gydag iselder.

Roedd Sioned Harries yn siarad am y cyfnod pan na chafodd hi ei chynnwys yn y garfan, ac mae'n teimlo na chafodd hi'r gefnogaeth roedd hi ei angen ar y pryd.

Ond mae hi'n dweud fod y gefnogaeth mae Undeb Rygbi Cymru yn ei gynnig bellach wedi gwella'n sylweddol.

Mewn datganiad mae Undeb Rygbi Cymru yn pwysleisio eu bod nhw wedi penodi seicolegydd perfformiad a'u bod yn benderfynol o greu awyrgylch o'r radd flaenaf i ferched.