Cefnogwyr ifanc yn canu Yma o Hyd i ffarwelio â sêr Cymru

Mae cannoedd o blant wedi bod yn gwylio carfan Cymru'n hyfforddi am y tro olaf cyn teithio i Qatar ar gyfer Cwpan y Byd.

Roedd anthem y gystadleuaeth, Yma o Hyd, yn cael ei floeddio gan gefnogwyr ifanc cyn i sêr Cymru ddod i'r cae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Fe fydd y garfan yn dechrau ar y daith i Qatar yn ddiweddarach, gan adael o Faes Awyr Caerdydd yn ystod y prynhawn.